Bydd tîm rygbi Cymru yn dychwelyd i Stadiwm Principality ddydd Sul, Chwefror 7, a hynny am y tro cyntaf ers bron i flwyddyn.
Y gêm ddiwethaf i gael ei chware yno oedd Cymru yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fis Chwefror y llynedd.
Cafodd gêm olaf Cymru yn y gystadleuaeth yn erbyn yr Alban ei gohirio tan yr Hydref.
Ers hynny roedd y Stadiwm genedlaethol wedi’i throi yn ysbyty dros dro a bu rhaid i Gymru chwarae gemau’r cartref yr hydref ym Mharc y Scarlets.
Ar ôl i Ysbyty Calon y Ddraig drin 34 o gleifion mae’r stadiwm bellach wedi ei thrawsnewid yn ôl yn gae rygbi.
‘Hwb enfawr’
Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, yn ffyddiog y bydd dychwelyd i’r stadiwm yn rhoi hwb i’w dim sydd ond wedi ennill tair gêm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a hyny er gwetha’r ffaith na fydd cefnogwyr yn bresennol.
Bu’n siarada a’r wasg brynhawn dydd Mercher wedi i’r tîm fod yn hyfforddi ar y cae newydd am y tro cyntaf.
“Yn bendant, roedd y bois hŷn wrth eu bodd,” meddai.
“Roedd ganddyn nhw lawer o egni. Roedd y cae yn edrych yn wych.
“Ry’ ni’n falch iawn ein bod ni yn ôl yn y stadiwm, bydd hi’n hwb enfawr i’r bois.”
Am y tro cyntaf erioed bydd y stadiwm, sydd yn medru dal dros 73,000 o bobol, yn wag ar gyfer y gystadleuaeth eleni wrth i gemau gael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig.
Y to i aros ar agor
Mae adroddiadau na fydd hawl gan Gymru na’r ymwelwyr benderfynu a fydd y to yn cael ei gau eleni.
Fel rheol, yr ymwelwyr sydd yn cael penderfynu, ond yn sgil Covid-19 mae’r ymwelwyr wedi cytuno i gadw’r to ar agor. .
Fodd bynnag os bydd angen ei gau oherwydd rhesymau diogelwch neu oherwydd tywydd eithafol bydd modd gwneud hynny.
Bydd Wayne Pivac yn enwi ei dîm i wynebu Iwerddon, ar benwythnos agoriadol y gystadleuaeth, brynhawn dydd Gwener, Chwefror 5.
Gemau Cymru yn y Bencampwriaeth eleni:
Cymru v Iwerddon | Stadiwm Principality | Chwefror 7, 15.00 |
Yr Alban v Cymru | Stadiwm Murrayfield | Chwefror 13, 16.45 |
Cymru v Lloegr | Stadiwm Principality | Chwefror 27, 16.45 |
Yr Eidal v Cymru | Stadio Olimpico | Mawrth 13, 14.15 |
Ffrainc v Cymru | Stade de France | Mawrth 20, 20.00 |