Mae asgellwr Cymru, Josh Adams, wedi ei waharadd o ddwy gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am dorri rheolau Covid-19 ac wedi ei yrru adref o wersyll y tîm cenedlaethol.

Daw hyn wedi i’r asgellwr sydd a 29 o gapiau rhyngwladol gyfarfod â’i deulu agos ddydd Sul, Ionawr 31.

Roedd y garfan wedi eu rhyddhau dros y penwythnos, ond doedd dim hawl gan y chwaraewyr i gyfarfod â theulu a ffrindiau ehangach.

Deliwyd gyda’r digwyddiad wrth i’r garfan ailymgynnull yng ngwesty’r tîm cenedlaethol ddydd Mawrth, Chwefror 2.

Ymddiheuriad

“Hoffwn ymddiheuro. Pan allan o’r gwersyll, dros y penwythnos, fe wnes i gamgymeriad,” meddai Josh Adams.

“Mynychais gyfarfod bach gyda teulu agos i ddathlu carreg filltir deuluol.

“Roedd yn anghywir gwneud hyn.

“Rwy’n ymwybodol bod angen i bawb ddilyn y rheolau a bod gennyf gyfrifoldeb i ddangos esiampl ac rwyf wedi syrthio’n fyr o hynny y tro hwn.

“Hoffwn ymddiheuro i’m cyd-chwaraewyr ac i’n cefnogwyr am fy nghamgymeriad.”

‘Siomedig’

“Rydym yn hynod siomedig ei fod wedi mynd yn erbyn y rheolau ac wedi gweithredu’n gyflym a chymryd pob cam priodol,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.

“Mae’r holl chwaraewyr a rheolwyr wedi’u haddysgu ynglŷn â’n protocolau, ac mae gan bawb gyfrifoldeb i gadw at y rheolau.

“Y tro hwn, mae Josh wedi gwneud camgymeriad, gwnaeth gamgymeriad ac mae wedi dangos edifeirwch ar unwaith.

“Mynychodd ddigwyddiad teuluol bach, ac yn dathlu carreg filltir gyda’r rhai sy’n agos ato ond mae hynny yn erbyn y rheolau a bu’n rhaid cymryd camau.”

“Byddwn yn gweithio gyda Josh mewn perthynas â’i ailintegreiddio yn dilyn proses brofi ac ailaddysgu pellach.”

Roedd y rownd ddiweddaraf o ganlyniadau profion COVID-19 (heddiw) ar gyfer y garfan genedlaethol i gyd yn negyddol.

Bydd Cymru yn wynebu Iwerddon yn Stadiwm Principality ddydd Sul, Chwefror 7.

Mae’n debyg y byddai Adams wedi dechrau yn erbyn Iwerddon, ac er nad yw Pivac yn cyhoeddi ei dîm tan ddydd Iau, mae’n ymddangos mai Louis Rees-Zammit George North a Chaerloyw fydd ar yr esgyll.

Covid-19 yn parhau i fod yn fygythiad i’r Chwe Gwlad, yn ôl Wayne Pivac

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r bygythiad mae’r coronafeirws yn ei roi ar y gystadleuaeth, yn enwedig oherwydd yr amrywiolyn newydd.”