Bydd gyrwyr tacsis yng Nghymru yn medru hawlio cyfarpar diogelu personol a deunyddiau glanhau cerbyd am ddim o hyn allan.
Bwriad y cynllun, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw magu hyder gyrwyr a theithwyr i deithio’n ddiogel.
Mae’r pecyn yn cynnwys gorchuddion wyneb safon feddygol, hylif diheintio, cadachau, a menig i lanhau cerbydau’n effeithiol rhwng teithwyr.
Mae’n gyfraith fod rhaid i deithwyr wisgo gorchudd wyneb ac mae Llywodraeth Cymru yn argymell yn gryf fod gyrwyr yn gwisgo gorchuddion wyneb wrth gludo teithwyr, heblaw bod hynny’n ymyrryd â’u gallu i yrru’n ddiogel.
‘Rôl hanfodol’
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r rôl hanfodol mae gyrwyr wedi ei chwarae fel gweithwyr rheng flaen yn ystod y pandemig hwn,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.
“Cydnabyddwn fod gyrwyr yn awyddus i sicrhau bod eu cerbydau mor ddiogel a glân â phosibl. Bydd y pecynnau hyn yn cyfrannu tuag at yr ymdrechion sydd eisoes yn cael eu gwneud ganddynt.”
‘Hen bryd’
Mae Russell George AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth, wedi croesawu’r newid.
“Mae’n hen bryd i’r sector hwn gael ei drin yr un fath a gweithwyr eraill trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru,” meddi.
“Er bod y pandemig wedi achosi cwymp o ran defnydd tacsis a theithiau eraill, bydd y 74,100 o yrwyr tacsi trwyddedig yng Nghymru a’r bobol maent yn eu cludo yn croesawu’r penderfyniad hwn.
“Bydd cynllun o’r fath, os caiff ei weithredu’n iawn, yn costio cryn dipyn a rhaid i weinidogion sicrhau eu bod mewn sefyllfa i gyflawni’r addewid hwn, yn llawn.”