Mae gweithredu diwydiannol ym mhencadlys y DVLA wedi symud gam yn nes yn dilyn pleidlais anffurfiol dros bryderon diogelwch parhaus, mae arweinwyr undebau wedi rhybuddio.

Dywedodd undeb PCS fod pôl anffurfiol o’i haelodau yn y safle yn Abertawe wedi dangos dicter a rhwystredigaeth ymhlith staff, gyda naw o bob 10 yn dweud y bydden nhw’n cefnogi streic.

Dywedodd swyddogion fod gweithwyr yn teimlo bod uwch-reolwyr a Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, yn “ddi-hid” am eu diogelwch ar ôl i gannoedd o achosion o’r coronafeirws gael eu ofnodi – bu hefyd farw un aelod o staff.

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth mai dim ond chwe achos o’r feirws oedd ar y safle erbyn hyn, gan bwysleisio bod “protocolau trwyadl” ar waith.

Mae’r undeb wedi bod yn pwyso am leihau lefelau staffio mewn ymgais i leihau’r risg i weithwyr.

Dicter ac ofn

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol PCS, Mark Serwotka: “Mae uwch-reolwyr DVLA a Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, wedi methu’n llwyr o ran eu cyfrifoldeb i gadw ein haelodau’n ddiogel yn y DVLA yn Abertawe.

“Roedd y dicter a’r ofn ymhlith staff y DVLA am eu diogelwch yn amlwg, ac mae’r ffaith i dros 90% bleidleisio o blaid streic [yn y pôl anffurfiol] yn adrodd y stori.

“Mae PCS bellach yn debygol iawn o symud i bleidlais streic statudol yn y DVLA gan ei bod yn amlwg na fydd uwch-reolwyr na Grant Shapps yn gwrando ar ddadleuon cryf a rhesymegol ar ddiogelwch staff.”

Protocolau trwyadl

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth: “Mae diogelwch holl staff y DVLA o’r pwys mwyaf i ni, a dyna pam mae protocolau trwyadl ar waith ac mae’r holl ofynion ac argymhellion gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Abertawe wedi’u rhoi ar waith.

“Ni fydd gofynion y PCS yn helpu i leihau achosion, o ystyried y nifer isel o achosion ymhlith staff DVLA ar hyn o bryd – fodd bynnag, byddant yn creu pryder diangen i staff ar y safle sy’n gwneud gwaith hanfodol.

“Mae’r mesurau sydd ar waith yn cael eu hadolygu’n gyson, ac rydym yn barod i weithio’n adeiladol gyda PCS ar fesurau ychwanegol posibl i roi sicrwydd pellach i staff.”

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth mai dim ond tua 500 o bobl allan o gyfanswm o 6,000 o staff oedd yn rhan o arolwg barn yr undeb, gan ychwanegu bod arbenigwyr iechyd yr amgylchedd yng Nghyngor Abertawe wedi cadarnhau bod y DVLA wedi gweithredu’r holl fesurau gofynnol.

Dywedodd swyddogion mai dim ond chwe achos o’r coronafeirws oedd ymhlith staff y DVLA ar hyn o bryd, gyda thri ohonynt wedi bod yn gweithio gartref.

Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Galw am ymchwiliad brys i reoliadau’r coronafeirws yn y DVLA yn Abertawe

Dyma’r pedwerydd tro i Dr Dai Lloyd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yng ngorllewin y ddinas, godi’r mater ers y cyfnod clo cyntaf fis Mawrth
Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Undeb yn galw am ymchwiliad llawn wedi marwolaeth gweithiwr DVLA

Roedd yr aelod o staff wedi cael prawf positif am Covid-19, meddai undeb y PCS