Bydd gwasanaeth newydd o’r enw The National Wales yn lansio yn y gwanwyn, gyda’r nod o “danio sgwrs genedlaethol”.

Cwmni Newsquest fydd yn gyfrifol am y fenter, ac mae disgwyl iddo gael ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Gwasanaeth digidol fydd The National Wales yn bennaf, ond mi fydd fersiwn print yn cael ei gyhoeddi ar achlysuron arbennig.

Cyhoeddwyd lansiad y gwasanaeth gan Gavin Thompson, Golygydd Rhanbarthol Newsquest, mewn cyfweliad ar TimesRadio ddydd Mercher.

Dywedodd yntau y bydd yn “wasanaeth newyddion i Gymru gyfan” ac y byddai’n manteisio ar “nerth presennol y rhwydwaith o ohebwyr sydd gan Newsquest, ein cyhoeddwr, ledled Cymru”.

O blaid annibyniaeth?

Bydd y gwasanaeth yn rhannu’r un enw â The National yn yr Alban, sydd hefyd dan berchnogaeth Newsquest, ac sydd o blaid annibyniaeth i’r Alban.

Yn ystod y cyfweliad dywedodd Gavin Thompson na fyddai The National Wales yn dangos tuedd yn yr un modd.

“Fyddwn ni ddim yn cymryd yr un safiad â The National yn yr Alban,” meddai. “Dw i’n credu bod yna wahaniaethau rhyngom.

“A dweud y gwir, dydyn ni ddim o blaid annibyniaeth. Rydym o blaid Cymru.”

Er hynny pwysleisiodd mai un o amcanion y gwasanaeth yw i “danio trafodaeth gyhoeddus am faterion sy’n gynnwys datganoli ac annibyniaeth”.