Mae pecyn cymorth newydd Llywodraeth Cymru sydd wedi ei gyhoeddi heddiw (Chwefror 3) i gefnogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, wedi ei groesawu gan undebau ac ymgyrchwyr.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn pryderon ynghylch colli swyddi yn y Llyfrgell Genedlaethol a deiseb a ddenodd bron i 14,000 o lofnodion, yn galw am becyn ariannu uwch.

Mae’r pecyn yn cynnwys £6.2m dros flynyddoedd ariannol 2020-21 a 2021-22, gan roi £2.25m i’r Llyfrgell a £3.95m i’r Amgueddfa i ddiogelu swyddi a chyflawni blaenoriaethau strategol newydd.

Mae undeb y PCS wedi croesawu’r pecyn ariannol newydd fel ‘buddugoliaeth’ i undebau llafur.

Er bod y newyddion yn darparu rhywfaint o ryddhad, mae cwestiynau’n parhau ynglŷn â sefyllfa ariannol hirdymor y sefydliad, wedi i’r cyfnod o ddwy flynedd ddod i ben.

Ac yn ôl Swyddog Undeb Prospect, Rob Phillips, sydd wedi rhoi croeso “mawr iawn” i’r datblygiad, nid yw’r pecyn ariannol yn debygol o fod yn ddigonol i ddiogelu pob swydd.

“Ni’n croesawu hyn yn fawr iawn”

“Ni’n croesawu hyn yn fawr iawn ac ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ffeindio’r arian ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cefnogi’r ymgyrch,” meddai’r Swyddog Undeb, Rob Phillips, wrth golwg360.

“Mae o wedi gwneud gwahaniaeth ac wedi tynnu sylw at y sefyllfa a dangos gymaint mae pobl Cymru yn gwerthfawrogi’r Llyfrgell Genedlaethol.

“Mae e wedi bod yn gyfnod pryderus iawn – doedden ddim yn gwybod pwy oedd yn wynebu colli swyddi ac ati. Mae unrhyw ail-strwythuro yn anodd ond mae hyn wedi bod yn waeth.”

Dywedodd bod yr ymgyrch, sydd wedi ennyn llu o gefnogaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn adlewyrchiad o werth a phwysigrwydd y llyfrgell i ddiwylliant Cymru a thu hwnt.

“Ateb tymor byr yw hwn”

Serch hynny, dywedodd bod angen sicrhau bod y gefnogaeth hon yn parhau a chynnal y Llyfrgell Genedlaethol am y blynyddoedd i ddod.

“Wrth gwrs, ateb tymor byr yw hwn,” meddai, “nid ateb tymor hir – ond mae e’n gam mawr, mawr ymlaen.

“A bydd dal angen i ni sicrhau bod yr arian yn mynd ymlaen – ni ddim eisiau bod yn yr un sefyllfa mewn dwy flynedd.”

Fodd bynnag, dywedodd bod y pecyn ariannol yn golygu bod y llyfrgell bellach mewn sefyllfa i allu gweithredu yn unol â’r argymhellion yr Adolygiad Teilwredig a gynhaliwyd yn ddiweddar, gan gynnwys cynyddu cyflymder yr agenda ddigidol ac ailwampio ei gydberthnasau â’i rhanddeiliad.

“Nawr, rydyn ni’n disgwyl i’r llyfrgell fuddsoddi yn yr ardaloedd hynny, amddiffyn swyddi, ail-hyfforddi pobl a chymryd mantais o’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd yn y llyfrgell yn barod.

“[A] dangos i Lywodraeth Cymru a phobl Cymru bod ni wedi cymryd yr adolygiad ymlaen, ein bod ni’n addasu ac yn gwella ein gwasanaeth ni i ymateb i anghenion bobl Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.”

“Ail-strwythuro mewn ffordd sydd yn gwarchod a buddsoddi mewn gwasanaethau”

Er hynny, dywedai nad yw’r pecyn cymorth yn debygol o fod yn ddigonol i arbed pob swydd.

“Rydyn ni mewn proses o ddiswyddo gwirfoddol ar hyn o bryd, ac mae’n eithaf posib bydd rhai swyddi yn mynd,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn disgwyl bod bob swydd am gael ei amddiffyn ond beth ni’n sôn amdano yw bod hyn yn rhoi digon o sgôp i’r Llyfrgell wneud ail-strwythuro mewn ffordd sydd yn gwarchod a buddsoddi mewn gwasanaethau pwysig a chasglu yn hytrach nag gorfod torri yn ôl ar y pethau pwysig yna.

“Dydyn ni ddim wedi cael cyfle i siarad gyda’r rheolwyr eto ond o’r ffigyrau dydi’r arian ychwanegol ddim cweit yn cyfateb i beth oedd y Llyfrgell wedi dweud bod angen i amddiffyn pethau ar ei lefel presennol.

“Dyw e ddim yn ateb perffaith ond mae e’n ateb da.”

“Dechreuad ar drafodaethau”

“Rwy’n ddiolchgar iawn eu bod nhw wedi gwrando,” meddai Cynghorydd Tref a chyn-Faer Aberystwyth, Sue Jones-Davies a sefydlodd y ddeiseb i ymgyrchu am gyllid teg i’r sefydliad.

“Mae hyn yn gam cyntaf ond sa’i eisiau gweld ni nol yn y sefyllfa yma mewn blwyddyn neu ddwy,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni weld bod y strwythur yn cael ei roi mewn lle i gryfhau’r llyfrgell am byth.”

Dywedodd bod hynny’n golygu craffu ymhellach, ystyried plethu gweithgareddau’r Llyfrgell Genedlaethol i mewn i’r cwricwlwm cenedlaethol ac annog cydweithio rhwng sefydliadau.

“Dyma ddechreuad ar drafodaethau llawer mwy dwfn a chymhleth nag arian yn unig,” meddai.

“Ni eisiau gweld cenedl a gwlad fach ni yn dod i’r brig yn y ffordd ma’ fe’n gallu, os byddai pawb yn gweithio gyda’i gilydd.

“Mae gymaint o gystadleuaeth – un yn erbyn y llall – a trïo cael arian o’r un pot, ond dydi hynny ddim yn ffordd i gydweithio a dyw e ddim yn ffordd o weithio sydd yn dda i’r wlad.”

Pecyn ariannu’r Llyfrgell Genedlaethol yn ‘fuddugoliaeth’ i Undebau Llafur

“Mae’r sefydliadau diwylliannol hyn a’r swyddi y maent yn eu darparu yn hanfodol i economi Cymru ac mae’n iawn eu bod wedi’u diogelu”

 

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi arian newydd ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru

Mae’r pecyn yn cynnwys £2.25m i’r Llyfrgell Genedlaethol a £3.95m i Amgueddfa Cymru i “ddiogelu swyddi a chyflawni blaenoriaethau strategol newydd”