Mae’r cyllid ychwanegol ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi cael ei ddisgrifio fel “buddugoliaeth” i undebau llafur.
Mae’r pecyn yn cynnwys £6.2m dros flynyddoedd ariannol 2020-21 a 2021-22, gan roi £2.25m i’r Llyfrgell a £3.95m i’r Amgueddfa i ddiogelu swyddi a chyflawni blaenoriaethau strategol newydd.
Daw’r pecyn ariannu ychwanegol yn dilyn pryderon ynghylch colli swyddi yn y Llyfrgell Genedlaethol a deiseb a ddenodd bron i 14,000 o lofnodion yn galw am becyn ariannu uwch.
Mae undeb y PCS, sy’n cynrychioli staff yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad ac yn ffyddiog y bydd yn osgoi colli swyddi a thoriadau niweidiol eraill gan y ddau gorff.
‘Tyst i ymgyrchu cryf’
“Mae’r fuddugoliaeth hon yn dyst i ymgyrchu cryf gan undebau llafur a’n cyd-undebau,” meddai Darren Williams, Ysgrifennydd PCS Cymru.
“Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i’r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i osgoi’r hyn a fyddai wedi bod yn doriadau niweidiol iawn.
“Mae’r sefydliadau diwylliannol hyn a’r swyddi y maent yn eu darparu yn hanfodol i economi Cymru ac mae’n iawn eu bod wedi’u diogelu. Nawr mae angen i’r cyllid ychwanegol hwn gael ei ymgorffori yng nghymorth grant y sefydliadau er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd hirdymor.”
“Mynd i’r afael â heriau uniongyrchol”
Wrth gyhoeddi’r cyllid ychwanegol dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas AoS ei fod mewn cysylltiad parhaus â’r Llyfrgell a gydag Amgueddfa Cymru ers peth amser.
“Rydym yn cymryd camau i ddiogelu swyddi ac i sicrhau cynaliadwyedd y cyrff hyn, sy’n gyfrifol am ofalu am ein casgliadau cenedlaethol ar ran pobl Cymru,” meddai.
“Ers cyhoeddi canfyddiadau’r Adolygiad Teilwredig ym mis Tachwedd 2020, mae’r Llyfrgell wedi symud ymlaen yn sylweddol gyda’r cynllun i weithredu argymhellion yr Adolygiad – mae’r momentwm hwn a ffocws ar yr hyn sydd angen ei wneud wedi ein galluogi i ddatblygu’r gyllideb weithredu angenrheidiol.”