Mae record Llafur ar ddiogelu a hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru yn “druenus ac yn hynod siomedig”, yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, wrth i’r blaid gyhuddo Llywodraeth Cymru o dangyllido’r Llyfrgell Genedlaethol.

Mae angen tua £1.5m ar y Llyfrgell er mwyn osgoi toriadau pellach i swyddi staff a gwasanaethau, ar ôl i’r £200,000 o’r £250,000 a gafodd yn ddiweddar gael ei gymryd yn ôl gan Lywodraeth Cymru oherwydd y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi pecyn ariannu newydd gwerth £2.25m.

Mae deiseb ar-lein sy’n galw am gyllid teg i’r Llyfrgell wedi casglu bron i 14,000 o lofnodion.

Dywed Siân Gwenllian fod y Llyfrgell Genedlaethol yn “rhan sylfaenol o fywyd diwylliannol, addysg a hanes Cymru” a bod “blynyddoedd o doriadau ariannol wedi ei gadael ar ei gliniau”.

“Mae’r gyllideb ddrafft ddiweddaraf yn dangos nad oes gan y Llywodraeth Lafur hon unrhyw ddiddordeb mewn sicrhau hyfywedd ariannol hirdymor un o’n sefydliadau cenedlaethol mwyaf gwerthfawr,” meddai

“Fe wnaethon nhw eu hunain gomisiynu adolygiad wedi’i deilwra o’r Llyfrgell a oedd yn argymell y dylid rhoi sylw brys i anghenion ariannol y Llyfrgell ac roedd y sefyllfa ariannu bresennol yn anghynaladwy.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ar frys y cyllid annigonol a ddyrennir i’r Llyfrgell Genedlaethol a darparu setliad ariannu cynaliadwy i’r Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn diogelu gweithlu heddiw ac yn caniatáu i’r llyfrgell ehangu ei gwaith hanfodol ar gyfer y dyfodol.”

Y Llyfrgell Genedlaethol wedi dioddef o ’dangyllido systematig’ medd AoS ac AS Ceredigion

“Mae’r Llyfrgell yn cadw ein hanes cenedlaethol yn fyw ac yn hygyrch i’r byd ac ni ddylid peryglu’r gwaith hwnnw,” medd Elin Jones a Ben Lake

“Rhaid inni beidio anwybyddu ein hunain”

Dros 1,000 o lofnodion mewn 24 awr ar ddeiseb yn galw am “gyllid teg” i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Ymchwil heb y Llyfrgell Genedlaethol? “Fyddwn i ddim yn gwybod lle i ddechrau!”

Shân Pritchard

Mae’r ymchwilydd Dr Dilys Jones yn pwysleisio gwerth archif sgrin a sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru