Bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, yn lansio cynllun newydd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 3), i ddarparu detholiad arbennig o lyfrau sy’n cefnogi iechyd a lles plant i bob ysgol gynradd.

Mae’r cynllun yn cael ei lansio yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant.

Mae Addysg Llywodraeth Cymru, ynghyd â Chyngor Llyfrau Cymru, yn ariannu pecyn o 41 o lyfrau i helpu plant ddeall a thrafod materion iechyd a lles.

Cafodd llyfrau eu dewis gan banel arbenigol ac mae’n cynnwys amrywiaeth o lyfrau stori-a-llun a llyfrau pennod ar gyfer oedrannau rhwng 4–11.

“Mynd i’r afael ag effeithiau ymbellhau cymdeithasol hirdymor”

Wrth lansio cynllun Iechyd Da yn swyddogol, dywedodd Kirsty Williams ei bod yn “falch iawn o fod yn rhan o lansiad prosiect Iechyd Da Cyngor Llyfrau Cymru”.

“Nod prosiect Iechyd Da yw helpu i fynd i’r afael ag effeithiau ymbellhau cymdeithasol hirdymor a hunanynysu, drwy ddarparu llyfrau darllen sy’n ysgogi sgyrsiau ac ymgysylltiad rhieni ar y themâu hyn,” meddai.

“Mae sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu rhannu cariad at ddarllen yn rhan bwysig o’r gwaith rwy’n ei wneud fel Gweinidog Addysg a hoffwn ddiolch i Gyngor Llyfrau Cymru am ei waith caled yn datblygu cyfres ddiddorol o adnoddau i gefnogi athrawon a dysgwyr mewn ymateb i’r pandemig.”

Yn ogystal â’r llyfrau, bydd ysgolion yn derbyn pecyn cynhwysfawr o adnoddau wedi’u paratoi gan rwydwaith o athrawon sy’n arbenigo ym maes llythrennedd, iechyd a lles.

Bydd adnoddau digidol ychwanegol hefyd ar gael ar blatfform addysg y llywodraeth, HWB, yn ystod tymor y gwanwyn.

“Meithrin sgyrsiau”

“Rydyn ni’n gwybod pa mor fuddiol gall ddarllen fod o ran ein lles a’n hiechyd meddwl, ac mae’r cynllun yma’n helpu i agor y drws i sgyrsiau gyda phlant am bynciau reit anodd,” meddai Helgard Krause, prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.

“Mae meithrin sgyrsiau o’r fath a dealltwriaeth bob amser yn bwysig ond yn enwedig felly nawr ac rydym ni’n falch iawn o gael gweithio gydag Adran Addysg Llywodraeth Cymru i wireddu’r prosiect pwysig yma.”