Mae Sky wedi cyhoeddi yr wythnos hon eu bod yn cynhyrchu ffilm newydd Sky Original yn Sir Gaerfyrddin, Save The Cinema, a fydd ar gael yn y sinemâu ac ar Sky Cinema tua diwedd y flwyddyn.

Mae’r gwaith ffilmio eisoes wedi dechrau yng Nghaerfyrddin a Rhydaman o dan gyfyngiadau Covid-19 a chamau diogelwch o dan arweiniad Sgrin Cymru, deddfwriaeth Llywodraeth Cymru a chyngor gan Gomisiwn Ffilm Prydain.

Mae’r ffilm wedi’i gosod yn y 90au, ac mae’n seiliedig ar stori wir sydd wedi’i hysbrydoli gan fywyd Liz Evans, triniwr gwallt o Gaerfyrddin a alwodd ar Hollywood, gyda chymorth Richard y postmon lleol a ddaeth yn gynghorydd, i achub ei sinema leol pan fu bygythiad i’w chau.

Ymhlith yr actorion sy’n actio yn y ffilm mae Samantha Morton (Fantastic Beasts and Where To Find Them), Tom Felton (Harry Potter), Jonathan Pryce (The Two Popes), Adeel Akhtar (Enola Holmes), Erin Richards (Gotham), Owain Yeoman (Emergence), Susan Wokoma (Enola Holmes), Colm Meaney (Gangs Of London), Rhod Gilbert (Have I Got News For You) a Keith Allen (Kingsman: The Golden Circle).

Bydd yr incwm gan y Cyngor trwy roi caniatâd, cau ffyrdd a defnyddio adeiladau cyhoeddus yn cael ei ailfuddsoddi i ddarparu gwasanaethau lleol i drigolion a busnesau’r sir, meddai’r Cyngor.

“Mae Sir Gaerfyrddin yn ennill enw da fel lleoliad ar gyfer ffilmiau a dramâu teledu gyda’i hamrywiaeth eang o arfordir a chefn gwlad, nodweddion hanesyddol a thirweddau gwledig a threfol,” meddai Emlyn Dole, arweinydd y Cyngor.

“Rydym yn mwynhau gweithio gyda chwmnïau cynhyrchu i archwilio cyfleoedd i Sir Gaerfyrddin elwa o gael ei dangos ar y sgrin, a hynny o ran yr hwb economaidd y gall ei roi i fusnesau lleol yn ystod y broses ffilmio ac yn y tymor hir.

“Wrth gwrs, yn ystod Covid-19 bu’n rhaid i ni sicrhau bod asesiadau risg a gweithdrefnau gwell ar waith yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

“Mae cwmnïau ffilmio sy’n gweithio yn yr ardal ar hyn o bryd wedi gweithio gyda ni ac wedi dyfalbarhau i sicrhau bod yr holl weithdrefnau diogelwch angenrheidiol ar waith.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y cynhyrchiad yn mynd yn ei flaen ac at ei weld ar ein sgriniau yn y dyfodol.”