Mae ymchwilwyr yn awgrymu bod brechlyn AstraZeneca Rhydychen yn gallu torri cyfraddau troslgwyddo’r feirws gan 67%.

Yn ôl ffarmacolegydd blaenllaw, gallai hyn fod yn “Greal Sanctaidd” y broses o gyflwyno’r brechlynnau.

Yn ôl canlyniadau cychwynnol arbrofion sydd wedi’u cynnal, mae dau ddos o frechlyn AstraZeneca Rhydychen dri mis ar wahân yn 82.4% yn effeithiol.

Ond mae’n gallu torri cyfraddau trosglwyddo’r feirws ar ôl un dos yn unig hefyd.

“Pe bai’r effaith ar drosglwyddo yn cael ei chadarnhau ar gyfer y brechlyn Pfizer hefyd, byddai hyn yn bositif iawn,” meddai Dr Gillies O’Bryan-Tear.

“Os yw’r brechlynnau hyn yn torri trosglwyddiadau i’r graddau sydd wedi’u hadrodd, fe fydd yn golygu llacio cyfyngiadau cymdeithasol yn gynt na phe bai’n rhaid i ni aros am imiwnedd torfol y mae’n bosib na fydd e fyth yn cael ei gyflawni oherwydd diffyg brechlu’r boblogaeth yn ddigonol.

“Byddai hyn yn Greal Sanctaidd y broses o gyflwyno’r brechlynnau ar draws y byd, ac mae’r data hwn yn mynd â ni gam yn nes.”

Diffyg tystiolaeth hyd yn hyn

Hyd yn hyn, mae arbenigwyr wedi bod yn rhybuddio nad oes tystiolaeth ddigonol ynghylch effaith y brechlynnau ar gyfraddau trosglwyddo Covid-19.

Hyd yn oed os yw brechlyn yn atal unigolyn rhag mynd yn sâl os ydyn nhw’n cael eu heintio, maen nhw’n dal yn gallu cael eu heintio a throsglwyddo’r feirws i rywun arall – sy’n golygu y byddai angen i bawb gael brechlyn er mwyn sicrhau bod pawb yn hollol ddiogel.

Ond os yw’r brechlyn hefyd yn atal rhywun rhag dal a lledaenu’r feirws yn y lle cyntaf, yna mae pob unigolyn yn gwarchod eu hunain a phobol eraill.

Serch hynny, mae Dr Gillies O’Bryan-Tear yn rhybuddio mai prin yw’r data sy’n dangos sut y daeth yr ymchwilwyr i’w casgliadau ac mae eu papur yn cael ei adolygu cyn ei gyhoeddi gan y Lancet.

“Rydym yn aros am ddata llawnach a’r cyhoeddiad a fydd yn ymddangos yn y Lancet yn fuan,” meddai.