Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud ei fod yn awyddus i glywed am brofiadau carcharorion sy’n siarad Cymraeg, yn dilyn honiadau bod yna “broblem fawr” a bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol yng ngharchar y Berwyn yn y gogledd.

Mae adroddiadau gan sawl carcharor iddyn nhw gael rhybudd y bydden nhw’n colli eu breintiau am siarad Cymraeg yn y carchar, bod oedi o fis a mwy wrth dderbyn post yn y Gymraeg a bod siaradwyr Cymru yn cael eu gwahanu oddi wrth ei gilydd yno.

Ers i Nick Leader gael ei benodi’n Llywodraethwr ar y carchar yn 2019, y Berwyn sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn trais a hunan-niweidio o blith holl garchardai Cymru.

‘Annerbyniol’

“Mae hawl unigolyn i gyfathrebu drwy gyfrwng ei iaith ei hun, neu’r iaith y gall fynegi ei hun rwyddaf ynddi yn fater o gyfiawnder sylfaenol, a diogelu’r hawl hwn yw fy mlaenoriaeth,” meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, mewn edefyn ar Twitter.

“Ym mis Rhagfyr 2018 cyhoeddom adroddiad ar hawliau a phrofiadau defnyddio’r Gymraeg yn y carchar. Lluniwyd yr adroddiad ar sail tystiolaeth gan garcharorion a gan y swyddogion y gwasanaeth carchar.

“Clywyd fel yr oedd siarad Cymraeg yn gallu gwneud bywyd yn anos i garcharor; ac, wrth gwrs, nid yw sefyllfa o’r fath yn dderbyniol.

“Buom yn trafod canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad gyda’r gwasanaeth carchar, ac fe wnaethant ymateb yn gadarnhaol i bob un o’n hargymhellion a datblygu cynllun iaith newydd yn adlewyrchu’r ymrwymiad i wella.

“Rydym wedi parhau i fod mewn cyswllt rheolaidd gyda’r gwasanaeth carchar ac wedi gohebu â llywodraethwr y Berwyn yn dilyn adroddiad y Bwrdd Monitro Annibynnol rai misoedd yn ôl a oedd yn amlygu meysydd i’w gwella o ran triniaeth o’r Gymraeg.

“Rwy’n ymwybodol, serch hynny, o’r sylwadau diweddar sydd wedi eu gwneud ynghylch triniaeth siaradwyr Cymraeg yng ngharchar Berwyn.

“Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan hyn i gysylltu â mi i rannu eu profiadau.”