Bydd cyllid ychwanegol ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol yn golygu ei bo yn gallu “ffynnu yn hytrach na dirywio,” yn ôl y cyn-lyfrgellydd Andrew Green.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth gyhoeddi pecyn ariannu newydd ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru.
Roedd yna bryderon ynghylch colli swyddi yn y Llyfrgell Genedlaethol ac fe wnaeth deiseb yn galw am becyn ariannu uwch ddenu bron i 14,000 o lofnodion.
Mae’r pecyn yn cynnwys £6.2m dros flynyddoedd ariannol 2020-21 a 2021-22, gan roi £2.25m i’r Llyfrgell a £3.95m i’r Amgueddfa i ddiogelu swyddi a chyflawni blaenoriaethau strategol newydd.
Mae’r cyllid ar gyfer y Llyfrgell hefyd yn cynnwys £750,000 i gyflymu’r broses o weithredu canfyddiadau’r Adolygiad Teilwredig a gafodd ei gynnal yn ddiweddar.
“Mae’n ddatganiad i’w groesawu yn fawr iawn ac mae’n braf bod y Llywodraeth wedi gwrando,” meddai Andrew Green wrth BBC Radio Cymru.
“Yn y bôn, cof cenedl yw’r Llyfrgell Genedlaethol, mae’n fwy na llyfrgell o bethau printiedig.
“Mewn ffordd mae’n cwmpasu nifer o sefydliadau fyddai’n sefydliadau gwahanol mewn gwledydd eraill yn yr un sefydliad.
“Felly mae’n gwbl hanfodol, nid yn unig i gadw cof y genedl, ond gwneud yn siŵr bod pobol nawr ac yn y dyfodol yn gallu defnyddio’r deunydd sydd yn y Llyfrgell.”
“Mae’r Llywodraeth yn tueddu efallai i feddwl bod y Llyfrgell ychydig yn ymylol”
Dywedodd Andrew Green fod “rhaid cydnabod fod arian cyhoeddus yn brin”.
“Ond mae’n fwy na hynny achos mae’r Llyfrgell yn cyfrif am bron ddim byd o gyllideb y Llywodraeth… mae’n sefydliad bach really,” meddai.
“Yn bwysicach, mae’r Llywodraeth yn tueddu efallai i feddwl bod y Llyfrgell ychydig yn ymylol, mae’n rhan o’r adran ddiwylliant sydd yn fach iawn, mae yn Aberystwyth y tu allan i’r brifddinas ac yn y blaen.
“Mewn gwirionedd, dyw hi ddim yn ymylol mewn unrhyw ffordd o gwbl, ond efallai mai dyna’r canfyddiad yng Nghaerdydd yn aml iawn.”