Mae’r Guardian yn adrodd bod dogfen sydd wedi’i rhyddhau cyn ei chyhoeddi’n swyddogol yn awgrymu mai trwy wneud “defnydd o faner [yr Undeb], cyn-filwyr a gwisgo’n smart” y bydd y Blaid Lafur yn adenill cefnogaeth y rhai sydd wedi’u dadrithio’n ddiweddar.
Cyflwyniad ar strategaeth fewnol y blaid yw’r ddogfen, a’i nod yw targedu seddi a ddylai fod yn eithaf diogel i’r Blaid Lafur ond a gafodd eu colli i’r Ceidwadwyr yn ystod buddugoliaeth swmpus Boris Johnson a’r Ceidwadwyr yn 2019, yn ogystal â seddi ymylol.
Mae’r strategaeth yn nodi nad yw nifer sylweddol o bleidleiswyr yn gwybod beth mae’r blaid yn ei gynrychioli ac er bod awgrym fod yr arweinydd Syr Keir Starmer wedi symud y blaid yn ei blaen, mae pryderon o hyd ei fod yn dueddol o “eistedd ar y ffens”.
Mae rhai pleidleiswyr yn poeni bod hyn yn ymgais bwriadol i geisio apelio at dipyn o bawb a bod y diffyg gweledigaeth yn golygu mai “dwy blaid o dan un enw” yw Llafur.
Dydy aelodau seneddol Llafur na’u staff ddim wedi derbyn copi swyddogol o’r strategaeth, a’r gred yw ei bod yn cael ei diwygio yn sgil pryderon am ei “sensitifrwydd”.
Mae rhai swyddogion sydd wedi gweld y strategaeth yn poeni am ei hieithwedd a’r posibilrwydd nad yw’r arweinydd wedi sylweddoli y gallai arwain at deimladau cenedlaetholgar.
Gwladgarol
Mae’r cyflwyniad yn awgrymu bod angen i’r blaid ddangos ei bod yn wladgarol er mwyn dangos ei bod yn mynd i gyfeiriad gwahanol erbyn hyn.
“Mae angen atgyfnerthu perthyn drwy’r holl negeseuon,” meddai un sleid ar y cyflwyniad, ac mae un arall yn dweud bod “parch ac ymrwymiad at y wlad” yn gallu dangos y newid cyfeiriad hwn o ran “osgo corff y blaid”.
Ond y prif awgrym yw fod y “defnydd o’r faner, cyn-filwyr, gwisgo’n smart ger y gofeb ryfel a.y.b. yn rhoi i bleidleiswyr synnwyr o arddel gwerthoedd gwirioneddol”.
Yn ôl y Blaid Lafur, ieithwedd yr ymchwilwyr oedd hyn ac nid y blaid eu hunain.
Wrth ymateb, dywedodd yr aelod seneddol Clive Lewis fod “y Blaid Dorïaidd wedi amsugno Ukip a nawr, mae’r Blaid Lafur fel pe bai’n amsugno iaith a symbolau’r Blaid Dorïaidd”.
Mae’n wfftio’r awgrym fod chwifio baneri’n “wladgarol” gan ddweud, yn hytrach, ei bod yn weithred o “Fatherland-ism” a fyddai’n fanteisiol i’r asgell dde ac nid yr asgell chwith.
Jac yr Undeb
Mae’n debyg bod uwch swyddogion y Blaid Lafur wedi gorchymyn fod Jac yr Undeb yn ymddangos ar ddogfennau’r strategaeth.
Daw hyn ar ôl i Syr Keir Starmer gyflwyno darllediad gwleidyddol ei blaid o flaen Jac yr Undeb gan addo “ailadeiladu ein gwlad”.
Mae’r blaid hefyd wedi creu a dosbarthu hysbyseb Facebook sy’n mynnu bod rhaid i’r Ceidwadwyr fod yn llymach ar ffiniau Prydain yn ystod y cyfnod clo, ac mae rhai wedi bod yn feirniadol o ieithwedd yr hysbyseb am fod yn rhy debyg i’r iaith sy’n cael ei defnyddio wrth ymosod ar fewnfudwyr.
Mae’r strategaeth hefyd yn rhybuddio am berygl “Albanwyr a phleidleiswyr ifainc” ar drothwy etholiadau Holyrood ym mis Mai.
Mae’r strategaeth hefyd yn beirniadu’r cyn-arweinydd Jeremy Corbyn am fod yn “blaid brotest” ac am beidio â bod yn ddigon gwladgarol.
Mae rhai o syniadau eraill y strategaeth, sy’n cynnwys 5,000 o blismyn ychwanegol, cronfa i achub y stryd fawr a gwarchod gwasanaethau bysiau wedi’u hwfftio fel rhai sy’n rhy “ddiflas”.