Mae allyriadau uchel gogledd Cymru’n dangos yr angen am ynni niwclear, yn ôl Cymdeithas y Diwydiant Niwclear.
Roedd gan y gogledd a Glannau Merswy, sef un rhanbarth y Grid Cenedlaethol, arddwysedd carbon cymedrig o 181g CO2 i bob kWh o drydan, llawer yn uwch na tharged datgarboneiddio trydan 2030 y Deyrnas Unedig, sef 50-100g.
Yn y rhanbarth hwn roedd yr amrywiaeth eithafol ehangaf mewn arddwysedd carbon, o 550g ar ddiwedd Ionawr i 27g ar ddechrau Gorffennaf.
Y rheswm am yr amrywiaeth yma yw’r diffyg cynhyrchu niwclear yn y rhanbarth i sefydlogi’r grid a darparu ynni glân cyson a dibynadwy, yn ôl y Gymdeithas.
Dywedodd y Gymdeithas fod Wylfa Newydd ar Ynys Môn yn un o safleoedd gorau Ewrop ar gyfer atomfeydd niwclear, gan ychwanegu fod yna botensial arwyddocaol i safle Trawsfynydd hefyd, yn yr achos am adweithyddion modiwlar bach (SMRs).
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi eu bwriad i sefydlu cwmni datblygu safle, Cwmni Egino, a fydd yn gweithio i alluogi nifer o brosiectau i gael eu datblygu ar y safle, gan gynnwys lleoli adweithyddion modiwlar bach.
Yn 2020, ynni niwclear oedd y cynhyrchydd mwyaf blaenllaw o bŵer carbon sero ar 158 allan o 358 diwrnod (44%) pan gafodd data ei gasglu.
Pŵer gwynt oedd y mwyaf blaenllaw ar y 200 diwrnod arall.
Ynni niwclear oedd fwyaf blaenllaw ym mis Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf, gyda phŵer gwynt fwyaf blaenllaw dros yr wyth mis arall.
“Mae rôl hanfodol gan atomfeydd niwclear”
“Mae pŵer niwclear, mewn partneriaeth gydag ynni adnewyddol, yn hanfodol ar gyfer cyrraedd sero net,” meddai Tom Greatrex, prif weithredwr Cymdeithas y Diwydiant Niwclear.
“I gyrraedd yno, mae angen adeiladu atomfeydd ar frys ochr yn ochr â chymhwyster adnewyddol.
“Gall rhanbarthau fel de Cymru elwa o brosiectau niwclear mewn rhannau eraill o’r wlad, fel Wylfa Newydd, i gynhyrchu’r ynni glân sydd ei angen.
“Gobeithiwn y bydd amser a gofod i ddatblygu’r ffordd ymlaen i Wylfa achos mae rôl hanfodol gan atomfeydd niwclear ar raddfa fawr wrth sicrhau adferiad economaidd a gwarantu dyfodol sero net.”