Mae Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn y gogledd, yn galw am sicrwydd na fydd y cyfyngiadau clo newydd mewn archfarchnadoedd yn cael effaith negyddol ar allu pobol ddall a gwan eu golwg i fynd i siopa.

Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried y cyfyngiadau diweddaraf ar hyn o bryd, ac mae RNIB Cymru yn dweud bod aelodau’n gofidio am unrhyw newidiadau posib i’r drefn bresennol.

Mae Mark Isherwood yn galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y mater.

“Mae mesurau arfaethedig yn cynnwys systemau i reoli nifer y cwsmeriaid mewn siopau, mwy o arwyddion gweledol a gorsafoedd hylendid a mwy o arwyddion cadw pellter cymdeithasol,” meddai.

“Mae nifer o aelodau RNIB Cymru wedi mynd atyn nhw yn poeni ynghylch beth allai’r cyfyngiadau newydd hyn ei olygu iddyn nhw.

“Mae cadw pellter cymdeithasol bron yn amhosib i bobol ddall a gwan eu golwg, ac mae ymdopi â chiwiau a newid gosodiad siopau wedi bod yn heriol dros ben iddyn nhw drwy gydol y pandemig.

“Felly mae RNIB Cymru yn galw am gyhoeddi arweiniad i archfarchnadoedd a manwerthwyr hanfodol i wneud staff yn ymwybodol o’r math o gymorth ac addasiadau y gallan nhw eu cynnig i gwsmeriaid dall a gwan eu golwg.

“Mae angen i bobol ddall a gwan eu golwg wybod dau beth: sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu mynd i’r afael â mater mynediad i archfarchnadoedd iddyn nhw, a pha arweiniad y byddan nhw’n ei roi i fanwerthwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth staff a sicrhau nad yw pobol fregus dan anfantais ymhellach.

“Galwaf am ddatganiad, felly.”

Ymateb

Wrth ymateb, dywed y Trefnydd Rebecca Evans y bydd hi’n sicrhau bod Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn adolygu’r mesurau newydd “gyda’r bwriad o archwilio beth yn rhagor y gallwn ni ei ddweud er mwyn sicrhau nad yw pobol dan anfantais a bod cymaint o ymwybyddiaeth â phosib”.