Mi fydd ymgeisydd o blaid wleidyddol newydd Neil McEvoy yn sefyll am rôl Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru eleni.
Mae ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd wedi cael eu gwahardd rhag dosbarthu pamffledi eleni oherwydd pryderon am ledaeniad Covid-19.
A daw cyhoeddiad yr Aelod o’r Senedd (arweinydd Propel) yn ymateb i hynny.
Yn ôl Neil McEvoy mae’r gwaharddiad yn “annemocrataidd, anghyfiawn ac yn annerbyniol”.
Mae Heddlu’r De wedi ymrwymo i sicrhau bod ymgeiswyr yn cydymffurfio â’r gwaharddiad, ac mae Neil McEvoy wedi eu ceryddu am hynny.
“O ganlyniad i ymyrraeth yr heddlu yn y broses ddemocrataidd, mae Propel wedi penderfynu sefyll yn etholiad Comisiynydd Heddlu De Cymru,” meddai.
“Rydym yn gwrthod aros ar y cyrion a gadael i’n democratiaeth gael ei herydu fel hyn. Rydym yma i ddod â’r feirws i ben, nid i roi diwedd ar drafodaeth ddemocrataidd.
“Heddiw rydym yn tynnu llinell yn y tywod. Rydym wedi agor enwebiadau ar gyfer ymgeisydd.
“Bydd Propel yn sefyll yn erbyn llygredigaeth, ac o blaid parchu trefn y gyfraith.
“Byddwn hefyd yn adolygu achosion o gamweinyddu cyfiawnder.”
Etholiad adeg argyfwng
Mae pleidiau bychain yn pryderu y byddan nhw ar eu colled os na fyddan nhw’n canfasio, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw hynny’n “esgus rhesymol i adael y tŷ”.
Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno mesur a fyddai’n caniatáu gohirio etholiad y Senedd pe bai’n rhaid, ac mi fydd y Senedd yn dechrau craffu arno ddydd Mawrth.
Bydd etholiad Comisiynwr Heddlu a Throseddu Cymru a Lloegr yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod ag etholiad y Senedd, Mai 6 (gan gymryd na fydd gohiriad).
Alun Michael, cyn-Brif Weinidog Cymru, yw Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru ar hyn o bryd.
Mae golwg360 wedi gofyn i Heddlu De Cymru am ymateb.