Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio bod angen cynllun i fynd i’r afael â thriniaeth canser yn ystod y cyfnod y coronafeirws.

Daw hyn ar ôl i elusen gancr MacMillan amcangyfrif bod 3,500 o gleifion canser wedi colli gwasanaethau triniaeth ers dechrau’r pandemig.

Bydd hyn yn arwain at fwy o bobol sydd angen triniaeth, a thriniaeth fwy cymhleth, yn nes ymlaen, yn ôl Plaid Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cynhadledd i drafod triniaethau canser yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywed Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu harfogi i drin y mewnlifiad disgwyliedig o gleifion canser sydd angen triniaeth.

“Mae gen i ddwy apêl – un, i unrhyw un sydd ag unrhyw bryder, unrhyw symptom, gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu,” meddai. “A dau, i’r Llywodraeth Lafur hon – nid dyma’r amser i fod heb gynllun gweithredu ar gyfer canser.

“Mae gan Gymru eisoes un o’r canlyniadau canser gwaethaf yn Ewrop, ac mae effaith y pandemig wedi gwaethygu hyn a bydd yn parhau i waethygu hyn.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu paratoi a’u harfogi i drin y mewnlifiad o gleifion canser sydd angen triniaeth fwy cymhleth yn ddiweddarach o ganlyniad i ddiagnosis diweddarach yn dod i’r amlwg, ac mae’n rhaid cynyddu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth symptomau nawr a thu hwnt i’r pandemig.

“Mae’n rhaid i fwy o ffocws fod mewn diagnosis cynnar, a dylai hyn fod yn rhan allweddol o gynllun canser strategol yng Nghymru.”

Ystadegau MacMillan “ddim yn fy synnu”

Wrth siarad â BBC Radio Cymru, dywedodd y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, sydd wedi bod yn cael triniaeth am ganser nad yw ffigurau MacMillan yn ei synnu.

“Ond mae e yn synnu fi ar lefel arall bod pobol ddim yn cadw mewn cyswllt,” meddai.

“Mae angen annog pobol i gadw mewn cyswllt, i ffonio’r ysbyty, ffonio swyddfa’r arbenigwr ac yn y blaen er mwyn gwneud yn siŵr fod y system yn gwybod am eu bodolaeth nhw.”

“Brawychus”

“Beth rydyn ni wedi’i weld oedd bod tair mil o bobol ddim yn y system cyn y Nadolig,” meddai Richard Pugh o’r elusen MacMillan.

“Yn anffodus erbyn diwedd y mis hwn mae’r ystadegau wedi codi i 3,500.

“Felly mae’r problemau’n gwaethygu ac rydym yn galw ar bobol i fynd i siarad â’u meddyg teulu oherwydd maen nhw’n aros yn y tŷ ar hyn o bryd yn eistedd ar ei symptomau.

“Mae hynny’n beth brawychus iawn.”