Mae’r Llinell Ddyled Genedlaethol wedi lansio canllaw yn y Gymraeg i helpu pobol i ddelio â dyledion.
Bwriad y canllaw yw arwain pobol sydd mewn dyled drwy’r camau sydd angen iddyn nhw eu cymryd i ddelio â’u sefyllfa ariannol.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae’r fersiwn Gymraeg wedi’i datblygu gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor Ariannol, yr elusen sy’n cynnal y Llinell Ddyled Genedlaethol.
Fel yr eglura Joanna Elson, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Cyngor Ariannol, mae’r canllaw ‘Sut i ddelio â dyled’ yn defnyddio technegau gwyddoniaeth ymddygiadol i dorri gwybodaeth yn dasgau llai fel ei bod yn haws i’w cyflawni.
“Rydym yn falch iawn o lansio fersiwn Gymraeg ein canllaw ‘Sut i ddelio â dyled’ – gan obeithio y bydd yr adnodd hwn yn helpu pobol mewn anawsterau ariannol ar adeg mor anodd i gynifer,” meddai.
“Gall cael trafferthion gyda dyled sy’n broblem fod yn brofiad anodd dros ben. I unrhyw un sy’n poeni am eu sefyllfa ariannol, mae’n bwysig gwybod bod cymorth ar gael. Mae ein canllaw wedi’i lunio i helpu i dywys pobol drwy’r camau sydd angen iddyn nhw eu cymryd i ddelio â’u sefyllfa.
“Byddwn hefyd yn annog unrhyw un sy’n poeni am eu dyledion i ofyn am gyngor am ddim ar ddyled gan elusen fel y Llinell Ddyled Genedlaethol cyn gynted â phosibl.”
Straen a baich ychwanegol oherwydd Covid
“Rydym yn gwybod ac yn deall bod y pandemig Covid-19 hwn yn achosi straen a baich ychwanegol ar incwm aelwydydd ledled Cymru, ac y gall canlyniadau i’r bobol sy’n cael eu gadael mewn trafferthion gyda dyled gael effaith negyddol hirdymor,” meddai Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.
“Dyna pam fy mod ar ben fy nigon ein bod wedi cefnogi’r fersiwn Gymraeg o’r ‘Canllaw ar Sut i Ddelio â Dyled’ yr Ymddiriedolaeth Cyngor Ariannol. Gobeithio y bydd y canllaw hwn yn helpu’r rheini ledled y wlad wrth iddyn nhw ddechrau rhoi trefn ar eu sefyllfaoedd ariannol.”
Mae’r canllaw Cymraeg ar gael i’w lawr lwytho yma.