Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog perchnogion tanciau olew domestig i’w gwirio’n rheolaidd er mwyn osgoi niwed i’r amgylchedd o ganlyniad i ollyngiadau.

Rhybuddia Cyfoeth Naturiol Cymru fod dyletswydd gyfreithiol ar berchnogion tai sy’n storio olew i sicrhau nad yw’n achosi llygredd, gan ychwanegu fod nifer fawr o ddigwyddiadau’n deillio o ollyngiadau o danciau bob blwyddyn.

Mae’r difrod y mae gollyngiadau olew’n ei achosi i’r amgylchedd yn cael effaith bellgyrhaeddol – gall ladd planhigion, niweidio bywyd gwyllt, llygru afonydd a halogi dŵr yfed.

“Gall olew gwresogi domestig gael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd, ac eto gellir osgoi mwyafrif y gollyngiadau’n hawdd drwy wirio tanciau a’u pibellau’n rheolaidd a thrwy eu cynnal yn dda,” meddai Euryn Robert, Uwch Swyddog yr Amgylchedd CNC.

“Yn ogystal ag achosi niwed i’r amgylchedd, bydd perchnogion tai hefyd yn ymwybodol iawn o’r gost o gael olew yn lle’r hyn a gollwyd, felly maen nhw ar eu hennill drwy sicrhau bod eu systemau tanciau storio olew mewn cyflwr da.

“Gall glanhau olew sydd wedi gollwng hefyd fod yn gostus, ac o ystyried ei bod yn bosibl na fydd cwmnïau yswiriant yn talu am ollyngiadau o systemau sydd wedi’u hesgeuluso neu nad ydynt yn cydymffurfio, gall olygu bod deiliaid tai’n wynebu biliau ychwanegol o filoedd o bunnoedd.

“Dydyn ni ddim eisiau i hyn ddigwydd, a dyna pam rydyn ni’n annog defnyddwyr olew i wirio’u cyfleusterau storio yn rheolaidd am unrhyw newidiadau fel craciau neu ollyngiadau bach – yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.”