Mae teyrngedau wedi’u rhoi i borthor yn Ysbyty Llandochau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sydd wedi marw â Covid-19.
Mae Andrew Woolhouse, 55, wedi’i ddisgrifio fel gŵr “ffydlon” gan ei wraig Marianne a’u merched.
Bu’n gweithio fel porthor yn yr ysbyty ers 2015, ac mae’r bwrdd iechyd yn dweud ei fod yn “uchel ei barch” ymhlith ei gydweithwyr, sy’n dweud ei bod yn “bleser” gweithio gyda fe.
Dywed y bwrdd iechyd y bydd “colled enfawr” ar ei ôl, a’u bod nhw “mewn poen o golli cydweithiwr arall” ar ôl colli pum aelod arall o staff yn ystod y pandemig.
Mae’r bwrdd iechyd yn atgoffa pobol i barhau i ddilyn y cyfyngiadau, gan ddweud bod “rhaid herio camwybodaeth beryglus a theorïau twyllodrus” a chyflwyno “ffeithiau a gwyddoniaeth”.