Heddiw (dydd Mercher 3 Chwefror), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn ariannu newydd ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru.
Daw hyn yn dilyn pryderon ynghylch colli swyddi yn y Llyfrgell Genedlaethol a deiseb a ddenodd bron i 14,000 o lofnodion yn galw am becyn ariannu uwch.
Mae’r pecyn yn cynnwys £6.2m dros flynyddoedd ariannol 2020-21 a 2021-22, gan roi £2.25m i’r Llyfrgell a £3.95m i’r Amgueddfa i ddiogelu swyddi a chyflawni blaenoriaethau strategol newydd.
Adolygiad Teilwredig
Mae’r cyllid ar gyfer y Llyfrgell hefyd yn cynnwys £0.75m i gyflymu’r broses o weithredu canfyddiadau’r Adolygiad Teilwredig a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Mae llythyr gan banel herio sy’n cyd-fynd ag adroddiad yr Adolygiad Teilwredig yn nodi’r canlynol fel materion allweddol sy’n deillio o’r adolygiad.
- yr angen i’r Llyfrgell fwrw ati gydag agenda newid;
- ni ddylai’r Llyfrgell ymochel rhag ystyried opsiynau radical wrth edrych i’r dyfodol;
- dylai gynyddu cyflymder yr agenda ddigidol;
- dylai adolygu’r swyddogaethau marchnata i weld a ellid cynhyrchu mwy o incwm;
- dylai ailwampio ei gydberthnasau â’i rhanddeiliad;
- dylai adolygu’r defnydd o’i hasedau a’i hystad;
- roedd agen i’r arweinwyr ar y Bwrdd ac ar lefel yr uwch-dîm feddu, rhyngddynt, ar y sgiliau cyflawn sydd eu hangen i gyflawni newid;
- yr angen am strategaeth a gweledigaeth briodol ar gyfer y tymor hwy.
Ac ymhlith argymhellion yr adroddiad teilwredig, nodir y “dylai’r Llyfrgell ddatblygu ymhellach y berthynas gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a phartneriaid eraill,” y dylid “buddsoddi mewn cynlluniau ymgysylltu allanol ac ymestyn allan cynhwysfawr” ynghyd ag “ystyried cynnal rhaglen o ymestyn arddangosfeydd o Aberystwyth ar draws Cymru, mewn cydweithrediad gydag orielau, archifau a llyfrgelloedd lleol”.
Nodir hefyd y “dylai’r Llyfrgell ddatblygu ymhellach y berthynas gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a phartneriaid eraill”.
“Mynd i’r afael â heriau uniongyrchol”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas AoS: “Mae’n bleser gen i gyhoeddi’r cyllid hwn a fydd yn diogelu ac yn cefnogi dau o’n sefydliadau diwylliannol pwysicaf yn ystod y cyfnod heriol iawn yma.
“Rydym wedi bod mewn cysylltiad parhaus â’r Llyfrgell a gydag Amgueddfa Cymru ers peth amser, ac rydym yn cymryd camau i ddiogelu swyddi ac i sicrhau cynaliadwyedd y cyrff hyn, sy’n gyfrifol am ofalu am ein casgliadau cenedlaethol ar ran pobl Cymru.
“Ers cyhoeddi canfyddiadau’r Adolygiad Teilwredig ym mis Tachwedd 2020, mae’r Llyfrgell wedi symud ymlaen yn sylweddol gyda’r cynllun i weithredu argymhellion yr Adolygiad – mae’r momentwm hwn a ffocws ar yr hyn sydd angen ei wneud wedi ein galluogi i ddatblygu’r gyllideb weithredu angenrheidiol.”
Dywedodd Rebecca Evans AoS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: “Rwy’n falch o gadarnhau’r gefnogaeth hon er gwaethaf un o’r setliadau cyllideb mwyaf heriol i Gymru ei wynebu.
“Bydd y pecyn hwn yn mynd i’r afael â heriau uniongyrchol ac yn rhoi amser a lle i Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol ddatblygu cynlluniau newydd i sicrhau mwy o sefydlogrwydd ar gyfer y tymor hir.
“Bydd hyn yn cynnwys cynnydd o ran cynaliadwyedd, trawsnewid digidol a gweithgarwch allgymorth ac ymgysylltu ehangach gyda chymunedau Cymru.”
“Mynd i’r afael â phrif argymhellion yr Adolygiad Teirwriedig”
Wrth ymateb, dywedodd Meri Huws, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rwy’n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cyllid ychwanegol hwn i’r Llyfrgell, sy’n golygu y byddwn ni’n gallu mynd i’r afael â phrif argymhellion yr Adolygiad Teirwriedig yn ogystal â rhoi ein Cynllun Strategol newydd a chyffrous ar waith.”
“Croesawu’n fawr y cynnydd hwn mewn cyllid a chefnogaeth”
A dywedodd Roger Lewis, Llywydd Amgueddfa Cymru: “Rydym yn croesawu’n fawr y cynnydd hwn mewn cyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod anodd yma.
“Mae effaith COVID-19 wedi achosi heriau digynsail i lawer o sefydliadau a busnesau yng Nghymru, ac nid yw Amgueddfa Cymru yn eithriad.
“Mae’r arian ychwanegol hwn yn ein rhoi ni mewn sefyllfa gryfach i wynebu’r heriau hyn, gan sicrhau y gall Amgueddfa Cymru fynd ati’n ddiwyd i gefnogi’r gwaith o wella ac ailadeiladu cymunedau Cymru.”