Mae “pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir” o ran yr argyfwng, ond ddylwn ni beidio â disgwyl unrhyw lacio mawr i’r rheolau yn y dyfodol agos.

Dyna ddywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw.

Dywedodd bod y rhaglen frechu “yn mynd o nerth i nerth” a bod y Llywodraeth yn dal i ddisgwyl y byddan nhw wedi brechu’r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol fis Chwefror.

Bryd hynny mi fydd gweinidogion yn adolygu’r cyfyngiadau sydd mewn grym yng Nghymru – ond yn siarad heddiw rhybuddiodd Vaughan Gething na ddylwn ddisgwyl newidiadau mawr.

“Gan ein bod ni wedi profi cryn gynnydd o ran ein rhaglen frechu mi allwn edrych ymlaen at benderfyniadau gwahanol [gan y Llywodraeth],” meddai.

“Ond wedi dweud hynny, dw i’n dal ddim yn credu y dylai pobol ddisgwyl llacio sylweddol o reolau pan fyddwn yn adolygu’r drefn yn ystod trydedd wythnos mis Chwefror.

“Ond wrth gwrs mi fyddwn yn edrych ar beth sydd yn digwydd gyda’r gostyngiadau yma. Cawn weld os byddan nhw’n parhau i gwympo, a faint o ryddid y bydd hynna’n rhoi i ni weithredu”

Gwyliau’r haf

Dywedodd Vaughan Gething hefyd ei bod hi’n “rhy ansicr” i ddweud y bydd pobl yn gallu mwynhau gwyliau haf dramor eleni.

“Rwy’n obeithiol y bydd pobl yn gallu cael gwyliau o ryw fath dros yr haf, ond ni fyddwn am ragweld ble fyddai hynny,” meddai Mr Gething.

“Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl yn dewis aros yng Nghymru neu’r DU ond yr her yw ein bod ni’n gwybod bod teithio rhyngwladol i dir mawr Ewrop wedi achosi llawer o gymysgu ac ailgyflwyno coronafeirws i’r DU o’r haf hwn ymlaen.

“Fe helpodd i hyrwyddo twf y feirws drwy’r hydref. Felly, bydd angen i ni i gyd wneud dewisiadau cyfrifol o hyd.

“Os bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau o ddifrif er mwyn i bobl allu mynd ar wyliau, yna bydd angen i ni weld beth yw’r rheolau o ran naill ai brechu neu brofi cyn ac ar ôl cyrraedd yn ôl hefyd.

“Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni’n mynd i fynd yn ôl i’r dyddiau y bydden ni wedi’u mwynhau, dyweder flwyddyn a hanner yn ôl. Dydw i ddim eisiau bod yn rhy gadarn ar deithio dramor ar gyfer gwyliau ar unrhyw adeg yn y dyfodol oherwydd rwy’n credu bod hynny’n rhy ansicr.”

Ond ywedodd Mr Gething fod Cymru ar hyn o bryd yn “ennill y frwydr” o ran lleihau cyfraddau achosion a chynyddu cyfraddau brechu, a dywedodd y byddai hynny’n “agor mwy o ddewisiadau” yn y dyfodol.

Amrywiolyn De Affrica

Roedd amrywiolyn De Affrica o’r haint yn bwnc llosg yn y gynhadledd.

Bellach mae 13 achos wedi’u cofnodi yng Nghymru, sydd yn gynnydd ar y tri achos a gofnodwyd yr wythnos ddiwethaf.

Roedd gan ddeg o’r achosion gysylltiad clir â naill ai De Affrica neu deithio rhyngwladol. O ran y tri achos arall, does dim sicrwydd ynghylch sut y gwnaethon nhw ledaenu.

O ran y tri achos yma, cafodd dau eu cofnodi yn y Gogledd (ar Ynys Môn ac yng Nghonwy), ac un arall ei gofnodi yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Bellach mae profion yn cael eu cynnal ‘o ddrws i ddrws’ mewn rhannau o Loegr er mwyn delio â’r amrywiolyn, a holwyd yn y gynhadledd a fyddai cynllun tebyg yn dod i rym yng Nghymru.

“Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn ystyried y posibiliad o gynnal profion cymunedol ar lefel awdurdod lleol,” meddai. “Rydym yn ystyried profion wedi’u targedu.”

Mi fydd y Llywodraeth yn dod i benderfyniad ar y mater yn dilyn sgyrsiau ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac adran y Prif Swyddog Meddygol.

Ffigurau diweddaraf

Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod cyfanswm o 462,497 dos cyntaf o frechlyn covid-19 bellach wedi’i roi – sy’n gynnydd o 22,857 ar y diwrnod blaenorol.

Bellach mae llai na 125 o bob 100,000 yng Nghymru yn derbyn prawf positif. 700 i bob 100,000 oedd y ffigur cyn y Nadolig.

Yn yr Alban mae’r gyfradd tua 140 i bob 100,000, ac mae’r gyfradd yn Lloegr tua dwbl hynny.

Ffigurau eraill

  • Mae 455 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws wedi’u cofnodi yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 193,981.
  • Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi 50 yn rhagor o farwolaethau, gan fynd â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 4,832.
  • Mae’r asiantaeth hefyd yn dweud bod 1,160 o ail ddosau wedi’u rhoi, cynnydd o 94.
  • Mae cyfanswm o 78.9% o bobl dros 80 oed wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn, ynghyd â 76.9% o breswylwyr cartrefi gofal pobl hŷn ac 80% o’r staff.