Mae’r Chwe Gwlad wedi cadarnhau bydd cystadleuaeth y merched yn cael ei gynnal fis Ebrill.

Ac yn hytrach na’r drefn arferol ble mae pawb yn chwarae ei gilydd, bydd gwledydd yn cael eu rhannu’n ddau grŵp ac yn chwarae dwy gêm grŵp cyn penwythnos y gemau terfynol.

Mae Merched Cymru wedi cael eu rhoi yn Grŵp B gyda Ffrainc ac Iwerddon, gan deithio i Ffrainc ar benwythnos cyntaf mis Ebrill cyn croesawu Iwerddon ar ail benwythnos y gystadleuaeth.

Daw’r penderfyniad wedi i bencampwriaeth y merched, oedd fod i gael ei gynnal yr un pryd a phencampwriaeth y dynion, gael ei gohirio oherwydd y pandemig.

‘Gemau cystadleuol i edrych ymlaen atynt’

Mae prif hyfforddwr Merched Cymru, Warren Abrahams, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y gwaith mae pawb wedi’i wneud i gyrraedd y sefyllfa yma a bod gennym gemau cystadleuol i edrych ymlaen atynt nawr.

“Rydym i gyd wedi goresgyn heriau gwahanol i gyrraedd yma a’r ansicrwydd fu’r rhan anoddaf felly mae’r newyddion hyn yn gyffrous.

“Mae Ffrainc ac Iwerddon yn gemau gwych i weithio tuag atynt a byddant yn gyfle i fesur ein gallu cyn Cwpan Rygbi’r Byd fis Medi.”

Bydd Cymru yn wynebu Seland Newydd ac Awstralia yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Grwpiau Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched 2021

Grŵp A Grŵp B
Lloegr Ffrainc
Yr Eidal Iwerddon
Yr Alban Cymru

Pencampwriaeth Dan 20 i symud i Fehefin a Groffennaf

Mae newidiadau hefyd i amserlen Pencampwriaeth Chwe Gwlad Dan Ugain – bydd y gystadleuaeth honno yn cael ei chynnal fis Mehefin a Gorffennaf.

Dywedodd Ben Morel, Prif Weithredwr Rygbi’r Chwe Gwlad, fod “hyrwyddo a datblygu rygbi ar bob lefel yn flaenoriaeth i’r bencampwriaeth.”

“Rydym yn gweld cyfle enfawr i dyfu gêm y menywod yn arbennig ac yn teimlo y bydd yn elwa’n fawr o gael ei ffenestr benodol ei hun,” meddai.

“Ar ôl ymgynghori â’n hundebau a’n ffederasiynau yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill, cytunwyd mai mis Ebrill fyddai’r ffenestr orau i gynnal pencampwriaeth y merched.

“Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan 20 hefyd yn gystadleuaeth hynod bwysig o ran datblygu chwaraewyr ac yn garreg filltir bwysig i’r rheini sy’n cynrychioli eu gwlad ar y lefel hon.”

Gohirio Pencampwiraeth Chwe Gwlad y Merched a’r Bencampwriaeth Dan Ugain

Er nad oes newid i brif gystadleuaeth y dynion, caiff cystadleuaeth y merched ei chynnal yn y gwanwyn neu’r haf