Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi dweud fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnal trafodaethau â’r Undeb Ewropeaidd er mwyn lleihau oedi ar allforion bwyd.
Yn ystod Sesiwn Cwestiynau Cymreig heddiw (dydd Mercher, Chwefror 3), dywedodd y cyn-weinidog Ceidwadol, Theresa Villiers, wrth Dŷ’r Cyffredin: “Mae’r rheolau ar fasnach ryngwladol yn ei gwneud yn ofynnol i reolau SPS (glanweithdra a ffisiechydol) fod yn seiliedig ar risg a gwyddoniaeth.
“Felly a wnaiff y Llywodraeth roi pwysau ar unwaith ar yr Undeb Ewropeaidd i godi’r gofynion cydymffurfio afresymol y maent yn eu gosod ar allforion bwyd Prydain, oherwydd maent yn anheg o ystyried bod ein safonau a’n rheolau bwyd ymhlith y gorau yn y byd.”
Atebodd Simon Hart Hart: “Gallaf warantu hynny. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â’n cydweithwyr yn yr Undeb Ewropeaidd ynglŷn â’r pwynt penodol hwn a bydd Michael Gove yn cynnal cyfarfodydd yr wythnos hon i drafod y mater hwn a materion cysylltiedig.”
Ben Lake yn codi gofidion am gig oen Cymreig
Ychwanegodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Ben Lake: “Mae allforwyr ŵyn yng ngorllewin Cymru wedi codi pryderon tebyg am yr oedi maen nhw’n ei wynebu ym mhorthladdoedd yr Undeb Ewropeaidd, gan adrodd bod rhai llongau wedi cael eu dal gan swyddogion y tollau am ddau i dri diwrnod oherwydd y materion hyn gyda thystysgrifau allforio iechyd anifeiliaid.”
Pan ofynnwyd iddo a yw’n disgwyl “ateb brys i’r broblem hon”, atebodd Simon Hart: “Nid wyf yn gwybod sut mae ‘brys’ yn cael ei ddiffinio yn yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd, ond yn sicr mae brys i ddatrys rhai o’r problemau hyn.”
Y diwydiant cregynbysgod wedi cael eu “bradychu”
Mynnodd Simon Hart, hefyd, fod y Llywodraeth yn “ymwybodol iawn o’r heriau” y mae diwydiant cregynbysgod y Deyrnas Unedig yn ei wynebu, ar ôl i Aelod Seneddol Llafur Llanelli, Nia Griffith, ddweud fod y diwydiant yn teimlo ei bod wedi cael ei “bradychu”.
Wrth drafod casglu cocos yn ystod Cwestiynau Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Nia Griffiths: “Mae casglwyr sydd eisoes wedi dychryn gan gyngor Defra na allent ailddechrau allforio cregynbysgod tan fis Ebrill bellach yn teimlo nid yn unig eu hanghofio, ond wedi’u bradychu’n llwyr i ddarganfod bod gweinidogion y Deyrnas Unedig yn gwybod ar hyd yr amser y byddai gwaharddiad yr Undeb Ewropeaidd ar fewnforio cregynbysgod y Deyrnas Unedig yn parhau.
“Pa gamau brys y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol a’i Lywodraeth yn eu cymryd i hwyluso’r gwaith o ailddechrau allforio pysgod cregyn ac achub y diwydiant traddodiadol hwn rhag diflannu am byth?”
Dywedodd Simon Hart fod y Llywodraeth yn gweithio i “wahaniaethu rhwng materion cychwynnol a allai fod yn deillio o’r pwnc penodol y mae’n cyfeirio ato ac efallai materion strwythurol mwy parhaol y gallai fod angen ateb tymor hwy arnynt”.
Ond ychwanegodd ei fod yn gallu “sicrhau hi a’r diwydiant ein bod yn ymwybodol iawn o’r heriau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd.”