Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi codi gofidion am “ansicrwydd parhaus” setliad ariannol Cymru.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru ddisgwyl ar Weinidogion San Steffan i ddatgelu beth fydd y setliad ariannol i Gymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Cymru’n derbyn £245 miliwn yn fwy gan yr Undeb Ewropeaidd nag oedd y wlad yn ei gyfrannu cyn Brexit, yn ôl dadansoddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

“Mae bron i fis wedi mynd heibio ac mae’n ymddangos bod Cymru’n dal i aros am ateb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â’n setliad ariannol terfynol,” meddai.

“Mae hyn, wrth gwrs, wedi creu amheuaeth ddiangen dros ddyddiad cyllideb Cymru.

“Mae busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn parhau i orfod delio gydag ansicrwydd parhaus ynghylch cyllid a bydd hyn yn amharu ar ein hymateb i’r pandemig.

“A wnaiff yr ysgrifennydd gwladol egluro beth yw diben ei swyddfa os na all hyd yn oed berswadio ei gydweithwyr yn y Trysorlys i siarad â Llywodraeth Cymru?”

Simon Hart yn canu clodydd yr Undeb

Wrth ymateb, dywedodd Simon Hart: “Mae’r berthynas rhwng y Trysorlys a Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran adfer Covid, wedi bod yn ddyddiol os nad bob awr gyda symiau enfawr o arian ar gael i fusnesau ac unigolion Cymru … mewn ysbryd o gydweithio a chydweithredu, ac felly credaf yn hytrach na gwneud y math yma o bwyntiau gwleidyddol rhad, y dylai [Liz Saville Roberts] gydnabod y ffaith bod y ddwy lywodraeth, yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn, wedi gweithio’n eithaf da gyda’i gilydd.

“Mae’r Undeb, sydd efallai’n bwynt nad yw’n hoffi i mi ei wneud, wedi bod yn hanfodol yn y broses honno.”