Mae’r Gweinidog Tai, Julie James, wedi dweud ei bod yn “cydymdeimlo’n fawr” â’r rheiny sydd methu prynu tai, ond bod y drafodaeth ynghylch tai haf yn “gymhleth go iawn”.
Yr wythnos diwethaf mi gyhoeddodd y Llywodraeth ddatganiad ar y mater, ac mi ddenodd hwnnw ymateb chwyrn gan ymgyrchwyr iaith.
Yn sgil hynny, brynhawn heddiw yng Nghyfarfod Llawn y Senedd, mi gododd cwestiwn am ymdrechion Llywodraeth Cymru yn y maes.
Dywedodd Julie James bod y Llywodraeth “yn gwybod ei fod yn fater mawr, yn enwedig yng ngorllewin Cymru” a’u bod yn “awyddus iawn i weithio yn rhyngbleidiol ar ystod o atebion i hyn”.
A rhannodd ei chydymdeimlad – yn hynod ofalus – â’r rheiny sydd methu fforddio tai.
“Mi fyddwch yn ymwybodol fy mod i’n cydymdeimlo’n fawr â phobol sydd methu prynu tai – pobol ifanc mewn pentrefi wnaethon nhw gael eu magu ynddyn nhw,” meddai.
“Un ffordd o fynd i’r afael â hyn, wrth gwrs, yw adeiladu y math iawn o dai – tai cymdeithasol, cydweithredol, cymunedol, ymddiriedolaeth. Mae yna sawl ffordd o wneud hyn.
“Tai sydd yn caniatáu bod [pobol leol] â siâr ynddyn nhw ryw ffordd, fel bod y tai yn methu cael eu hadeiladu ac yna eu gwerthu ar y farchnad breifat am symiau anferthol.”
Yn ddiweddarach dywedodd bod “yr hyn yr ydym yn ei alw’n ‘ail gartrefi’, a phwy sydd yn byw ynddyn nhw, yn fater cymhleth go iawn”.
Dywedodd bod yn “rhaid ffeindio ffordd o ddiogelu tai i bobol leol, nid jest i bobol sy’n prynu am y tro cyntaf” ac ategodd bod Llywodraeth Cymru yn “edrych ar ystod o fesurau sy’n caniatáu hynny”.
Loophole? Diffinia loophole…
Yn ystod ei chwestiwn i’r gweinidog, mi wnaeth Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, dynnu sylw at bryderon ynghylch diffygion y gellir manteisio arnyn nhw (loophole).
Mae yna bryderon bod rhai perchnogion tai haf yn rhentu eu tai i eraill am y cyfnod byrraf posib er mwyn cael eu hystyried yn fusnes – ac felly’n gymwys i dalu llai o dreth.
Yn siarad am mi ddechreuodd Julie James gwestiynu diffiniad y gair loophole.
“Dw i ddim yn siŵr fy mod yn cytuno mai loophole yw hyn,” meddai, “ond dw i’n deall beth sydd dan sylw.”
Dywedodd bod y llywodraeth yn ystyried cynyddu nifer y diwrnodau y mae’n rhaid rhentu tŷ cyn iddo gael ei ystyried yn fusnes.
Gweinidog y Gymraeg
Ddiwedd llynedd mi wnaeth Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, gydnabod bod ail gartrefi “heb os yn broblem” i gymunedau a’r iaith Gymraeg.
A fis diwethaf dywedodd bod ganddi “gydymdeimlad” â’r ddadl tros ddiogelu enwau lleoedd – er roedd hi hefyd yn nodi bod yna “broblemau ymarferol” sy’n rhaid eu hystyried.