Mae’r economegydd Dr John Ball wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y diffyg cynrychiolaeth o Gymru sydd ar bwyllgor busnes a ffurfiwyd i drafod adferiad economaidd yn sgil y pandemig.
Wythnos ddiwethaf, cadeiriodd y Prif Weinidog Boris Johnson gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Busnes ‘Adeiladu’n Ôl yn Well’ oedd yn dod ag “ystod eang o arweinwyr busnes o bob rhan o economi Prydain” ynghyd.
Ymhlith y 30 o gynrychiolwyr o’r byd busnes, a fydd yn cyfarfod â’r Prif Weinidog a’r Canghellor bob chwarter, mae Prif Weithredwr British Airways, Prif Weithredwr BP, a Chadeirydd John Lewis.
Mae Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn mynnu mai nod y pwyllgor yw darparu cyfleoedd gwell i bobol a busnesau ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.
‘Wedi methu ffaith economaidd syml’
“Mae dau beth amlwg; un ohonynt yw perthnasedd y rhai sy’n rhan o’r Pwyllgor Busnes, yr ail ac efallai’r pwysicaf, yw eu bod nhw wedi methu ffaith economaidd syml – does dim y fath beth ag economi Brydeinig,” meddai Dr John Ball wrth golwg360.
“Mae bron pob un o aelodau’r pwyllgor yn eistedd ar frig sefydliadau rhestredig ar y gyfnewidfa stoc yn Llundain, tra bod gwir benderfyniadau a dealltwriaeth o’r sefyllfa yn cael eu gwneud ymhellach i lawr o lawer yn y sefydliadau.
“Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi mai’r arweinwyr yma yw’r bobol iawn.
“Mae un aelod o’r pwyllgor yn rheolwr cronfa fwyaf y byd, Black Rock [cwmni Americanaidd]. Maen nhw’n llwyddiannus iawn am wneud arian drwy ddefnyddio arian, does dim byd o’i le ar hynny, ond dydyn nhw ddim yn gwneud nac yn gwerthu dim. Felly beth all Black Rock ei gyfrannu at gorff sy’n gyfrifol am adferiad economaidd rhannau tlotach y Deyras Unedig, yn enwedig Cymru?
“Yn ail, rhaid i unrhyw bolisi datblygu economaidd difrifol gydnabod pwysigrwydd strategaeth o’r gwaelod i fyny sy’n cynnwys busnesau lleol – ac yn ddieithriad, busnesau bach.
“Yn y bôn, mae hanes wedi dangos nad yw polisi datblygu economaidd a yrrir yn ganolog ar unrhyw lefel yn gweithio.”
Yn ôl Boris Johnson bydd y Pwyllgor Busnes yn darparu “fforwm pwysig ar gyfer adborth gonest” ar gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i adfer yr economi er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn cymryd y camau cywir.
‘Economi ddaearyddol heriol Cymru’
Eglurodd Dr John Ball fod gan Gymru economi ddaearyddol sydd yn heriol.
“Nid yw’r Deyrnas Unedig yn un uned economaidd ac nid yw polisi economaidd sydd wedi’i gynllunio’n ganolog yn berthnasol i bob man,” meddai.
“Er enghraifft ni allwch ddweud bod economi Abertawe’r un fath â Chaerdydd, neu Gaernarfon yr un fath â Bangor, ac mae cymoedd de Cymru yn hollol wahanol eto – ac yn cyflwyno her economaidd unigryw.
“Mae Llywodraeth San Steffan wedi edrych ar fusnesau mawr, ac ar wahân i Severn Trent does dim cynrychiolaeth o Gymru.
“Mae hyn yn adlewyrchu strwythur economi Cymru, ychydig iawn o fusnesau mawr sydd ac mae’r rheini ran amlaf yn eiddo allanol, mae economi Cymru yn ddaearyddol heriol ac yn cynnwys llawer o fusnesau lleol a bach.
“Bydd unrhyw gynllun mawreddog o Lundain yn amherthnasol, roedd hyd yn oed yr hen Awdurdod Datblygu Cymru yn cael trafferth gyda gwahaniaethau o fewn economi Cymru.
“Yn y bôn, mae datblygu economaidd yn bŵer datganoledig a mater i’r Senedd yw ymgymryd â’r ddyletswydd hon, er ei bod wedi bod yn fethiant gogoneddus hyd yma.”
‘Adeiladu a chynnig cyfleoedd gwell i fusnesau Cymru’
Eglurodd llefarydd ar ran Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru mai’r nod yw darparu cyfleoedd gwell i bobol a busnesau ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.
“Mae’r Pwyllgor Adeiladu’n Ôl yn Well yn dod ag ystod eang o arweinwyr busnes o bob rhan o economi Prydain ac o amrywiaeth o sectorau ynghyd,” meddai’r llefarydd wrth golwg360.
“Bydd yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatgloi buddsoddiad, hybu creu swyddi, a lefelu ar draws y Deyrnas Unedig i gyd.
“Rydym ni – fel llawer o wledydd eraill – yn wynebu her economaidd enfawr o ganlyniad i’r pandemig ac wrth i ni wella ni fydd yn ddigon i fynd yn ôl i normal. Ein nod yw adeiladu a chynnig cyfleoedd gwell i bobol a busnesau ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.”
Mae golwg360 hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.