Mae trefnwyr gŵyl Tafwyl – sy’n dathlu iaith, celfyddydau a diwylliant Cymru – wedi cyhoeddi y bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fyw o Gastell Caerdydd eto eleni ar Fai 15.

Bydd yr ŵyl yn cynnwys cerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau, ynghyd a gweithgareddau i blant.

Tafwyl digidol llynedd oedd y digwyddiad cyntaf ym Mhrydain ers cyflwyno cyfyngiadau iechyd a diogelwch covid-19 i gynnig llwyfan i artistiaid chwarae’n fyw o’r lleoliad lle cynhaliwyd yr ŵyl ddiwethaf.

Wrth i Tafwyl ddathlu ei phen-blwydd yn bymtheg oed eleni, dywedodd y trefnwyr mai’r bwriad ydi adeiladu ar y profiadau newydd ddaeth yn sgil yr ŵyl rithiol llynedd.

Bydd gweithgareddau holl lwyfannau’r ŵyl yn cael eu ffrydio’n fyw o Gastell Caerdydd trwy gyfrwng platfform digidol AM.

Bydd uchafbwyntiau’r Ŵyl ar gael i’w gwylio mewn rhaglen awr o hyd ar S4C, mewn cyd-gynhyrchiad rhwng Orchard Media a Tafwyl, gydag ambell set ecgliwsif ar blatfform digidol Lŵp yn ogystal.

“Codi calon”

“Wedi adborth mor gadarnhaol yn dilyn Tafwyl digidol y llynedd a ffrydiwyd yn fyw o Gastell Caerdydd, rwyf yn falch o gyhoeddi y bydd Tafwyl digidol yn digwydd eto eleni – yn dod yn fyw o Gastell Caerdydd ar Fai’r 15fed i godi calon ac ysbryd artistiaid a gwylwyr,” meddai Manon Rees-O’Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, trefnwyr yr ŵyl.

“Bydd yn gyfle gwych i Fenter Caerdydd barhau i godi proffil y Gymraeg mewn digwyddiad byw ac arloesol, a chyflwyno’r iaith a’r diwylliant i gynulleidfa ehangach.”

Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr a Chyd-sylfaenydd AM fod gŵyl ddigidol y llynedd wedi bod yn “llwyddiant arloesol”.

“Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio yn agosach gyda Menter Caerdydd a thîm Tafwyl er mwyn sicrhau bod Tafwyl rhithiol eleni yn well fyth, yn parhau i dyfu, ac yn cyrraedd cynulleidfa ehangach nac erioed.”

25,000 wedi gwylio’r ŵyl y llynedd

Llwyddodd Tafwyl 2020 i ddenu cynulleidfa o dros 25,000, gyda phobol yn ffrydio’r ŵyl o’r Unol Daleithiau, Siapan, Yr Iseldiroedd, Sbaen a Ffrainc, ymysg gwledydd eraill.

Dywedodd Rob Light, Cyfarwyddwr Tîm Cynhyrchu Creadigol a Rhaglenni Teledu Orchard Media: “Rydym yn falch o fod yn bartner ac yn cynhyrchu Tafwyl 2021.

“Mae darlledu’r digwyddiad wedi ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa ehangach, gan gynnig cyfle gwych i arddangos ein diwylliant a’n talent i bobl ledled y byd.

“Yn absenoldeb cynulleidfaoedd byw, mae Tafwyl Digidol unwaith eto yn cynnig cyfle i artistiaid o Gymru berfformio ar lwyfan cenedlaethol – a rhyngwladol erbyn hyn.”

Marchnad ddigidol

Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw, bydd y farchnad ddigidol yn ôl eleni, gyda masnachwyr annibynnol Cymreig yn gwerthu amryw o gynnyrch.

Roedd dros 50 o fasnachwyr yn rhan o farchnad ddigidol llynedd, yn ôl y trefnwyr, gyda gwariant o dros £15,000 mewn un prynhawn.

“Dathlu a dod â phobol o’r diwydiannau creadigol a digwyddiadau ynghyd”

Mae Menter Caerdydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a Chyngor Caerdydd i gynnal Tafwyl 2021.

“Mae’n newyddion gwych ein bod unwaith eto yn gallu cydweithio i adeiladu ar lwyddiant Tafwyl Digidol llynedd,” meddai Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg.

“Mae’r ymateb arloesol wrth rannu, dathlu a dod â phobl o’r diwydiannau creadigol a digwyddiadau ynghyd, wedi bod yn llwyddiant aruthrol – ac mae wedi darparu gobaith ac adloniant yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Bydd hwn yn gyfle arbennig i ddod ag ychydig mwy o’r Gymraeg i’n cartrefi trwy’r Ŵyl boblogaidd hon.”