Mae angen caniatáu trafodaethau agored oddi fewn i’r Blaid Lafur, a dylid sicrhau bod pobol ddim yn cael eu cosbi’n llym am rannu eu barn.

Dyna farn Beth Winter, yr Aelod Seneddol Llafur sy’n cynrychioli etholaeth Cwm Cynon yn San Steffan, ac sy’n credu bod angen croesawu Jeremy Corbyn yn ôl i’r gorlan.