Ar ôl dathlu ymadawiad Neil Harris, mae cefnogwyr Caerdydd wedi rhoi croeso llugoer i Mick McCarthy ac yn poeni am ddyfodol hirdymor y clwb…

Mae cefnogwyr tîm pêl-droed Caerdydd yn ‘gwneud yr Ayatollah‘ byth ers i’r band lleol U-Thant chwarae yng nghanolfan y Chapter yn y brifddinas yn 1990. Dechreuodd y ddefod mewn cyfnod llwm yn hanes y clwb, yn fuan ar ôl iddyn nhw ostwng o’r