Mae rheolwr Abertawe, Steve Cooper, wedi dweud fod ei dîm yn barod i herio Norwich yn y Bencampwriaeth nos Wener (Chwefror 5), gyda’r gic gyntaf am 8:15yh.

Mae Norwich yn ymweld â Stadiwm Liberty fel y ceffylau blaen yn y Bencampwriaeth, gydag Abertawe yn y trydydd safle, bum pwynt y tu ôl i ddynion Daniel Farke, ond wedi chwarae gêm yn llai.

Enillodd Abertawe ei gêm ddiwethaf o 3-1 yn erbyn Rotherham, tra bod Norwich ddim ond wedi gallu sicrhau gemau cyfartal yn eu dwy gêm ddiwethaf.

Ond mae Steve Cooper yn mynnu na fydd yn talu sylw i’w safle yn y Bencampwriaeth, hyd yn oed os ydyn nhw’n trechu Norwich.

“Fe fydda i’n rhoi gwybod i chi pan ddaw’r amser hwnnw (i edrych ar y tabl). Ond nid nawr, mae hynny’n sicr”, meddai Cooper.

“Ta waeth am beth sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, os ydyn nhw ennill gemau’n gyfforddus neu wedi colli gemau, rydym yn trin y gêm yn union yr un fath.

“Mae Norwich yn dîm da, ond rydyn ni’n mynd i fod yn barod amdani.”