Geraint Thomas fydd yn arwain tîm Ineos Grenadiers yn y Tour de France eleni.
Daw hyn wedi i’r Cymro gael ei adael allan o’r tîm yn y ras y llynedd er mwyn canolbwyntio ar y Giro d’Italia – er y bu’n rhaid iddo dynnu allan o’r ras honno hefyd yn y pen draw.
Geoghegan Hart ennillodd y Giro d’Italia yn y pen draw.
Yn ôl pennaeth y tîm, y Cymro Cymraeg, Dave Brailsford, mae’r daith eleni yn “addas iawn i Geraint.”
“Mae ganddo gymhelliant mawr ar gyfer y ras yma,” meddai.
“O ystyried yr amser treialu, natur y dringo, yr wythnos gyntaf a’r croeswyntoedd, mae’n addas iawn i’w sgiliau a’i briodweddau.
“Ar bapur mae’n Daith wych i Geraint.”
Bydd Geoghegan Hart yn cefnogi Geraint Thomas yn y ras, sy’n golygu na fydd y Sais yn amddiffyn teitl y Giro a enillodd ym mis Hydref.
Egan Bernal o Golombia fydd yn targedu’r Giro d’Italia i dîm Ineos eleni.
‘Addasu a chymryd cyfleoedd’
“Dydyn ni ddim am newid llawer eleni, ond am barhau â’r hyn a ddechreuwyd gennym y llynedd – ceisio bod yn dîm mwy manteisgar a hyblyg,” Dave ychwanegodd Brailsford.
“Mae angen i ni addasu ein harddull a chymryd cyfleoedd pan fyddan nhw’n codi.
“Ar ôl cael llawer o fuddugoliaethau, roedd pobl yn cwestiynu pa mor dda oedd hynny i’r gamp.
“Rydyn ni wedi meddwl yn hir ac yn galed am y peth – ai Terminator neu Zorro? Dull Yr Almaen neu Brasil? Efallai mai paratoi fel yr Almaen a chwarae fel Brasil yw’r ateb!”