Fydd tîm criced Morgannwg ddim yn cynnal unrhyw gemau y tu allan i gae Gerddi Sophia yng Nghaerdydd oherwydd y coronafeirws unwaith eto eleni.

Cafodd pob gêm gartref y llynedd eu cynnal yng Nghaerdydd ac mae’r clwb yn dweud eu bod nhw wedi penderfynu dilyn yr un drefn y tymor hwn am resymau ariannol ac ymarferol yn ymwneud â Covid-19.

Mae hynny’n golygu, am yr ail dymor yn olynol, na fydd caeau allanol San Helen yn Abertawe, Casnewydd na Llandrillo yn Rhos ger Bae Colwyn yn cael eu defnyddio.

Mae mynd â gemau i bob cwr o Gymru wedi bod yn rhan o weledigaeth y clwb o “Wneud Cymru’n Falch” ers iddyn nhw ddatblygu eu pencadlys yng Nghaerdydd a mynd ag ambell gêm i rannau eraill o’r wlad.

Ond mae ail dymor heb griced sirol yn unrhyw ran arall o’r wlad yn siŵr o godi cwestiynau ynghylch y dyfodol.

Eglurhad

“Rydym bob amser yn edrych ymlaen at ein gemau yn Abertawe, Casnewydd a Bae Colwyn, felly mae’n destun siom na fyddwn ni’n gallu chwarae yn y lleoliadau hynny eleni,” meddai Hugh Morris, prif weithredwr Morgannwg.

“Yn anffodus, mae’r pandemig wedi creu cyfres o heriau nad yw’r clwb na’n partneriaid yn credu y gellir eu hateb yn yr amserau ansicr hyn.

“Byddem yn wynebu costau ariannol sylweddol a materion logisteg wrth redeg unrhyw griced ar gaeau allanol yn 2021 pe bai rhai o gyfyngiadau’r coronafeirws yn aros yn eu lle, fel sy’n debygol.

“Yn hytrach, byddwn ni’n canolbwyntio ar gynnal ein holl gemau yn prif leoliad, Gerddi Sophia, ac rydym yn dal i obeithio y bydd aelodau a chefnogwyr yn gallu cefnogi’r tîm yn fyw, tra byddwn ni hefyd yn dangos pob gêm gartref ar ffrwd byw yw clwb.

“Rydym yn parhau’n ymroddedig i chwarae criced ar gaeau allanol fel rhan o’r strategaeth ‘Ysbrydoli’r Cenedlaethau’ i fynd â chriced ledled Cymru ac i ddod â’r gêm i’n cymunedau ehangach.”

Gemau 20 pelawd y Vitality Blast

Yn y cyfamser, mae trefnau gemau undydd Morgannwg ar gyfer y tymor wedi’u cadarnhau.

Bydd gemau grŵp gystadleuaeth ugain pelawd, y Vitality Blast, yn cael eu cynnal rhwng Mehefin 10 a Gorffennaf 18, gyda rownd yr wyth olaf ar ddiwrnodau olynol rhwng Awst 24 a 27, a Diwrnod y Ffeinals yn Edgbaston ar Fedi 18.

Byddan nhw’n dechrau gyda gêm gartref yn erbyn Swydd Gaerloyw ar ddiwrnod cynta’r gystadleuaeth, cyn croesawu Essex dridiau’n ddiweddarach.

Byddan nhw wedyn yn teithio i’r Oval i herio Surrey ar Fehefin 14 cyn gemau cartref yn erbyn Caint (Mehefin 16) a Middlesex (Mehefin 18).

Bydd ganddyn nhw bedair gêm oddi cartref wedyn – yn erbyn Gwlad yr Haf (Mehefin 19), Sussex (Mehefin 22), Swydd Gaerloyw (Mehefin 24) a Middlesex (Mehefin 27, lleoliad i’w gadarnhau).

Byddan nhw’n croesawu Surrey ar Fehefin 29 cyn teithio i Chelmsford i herio Essex (Gorffennaf 1), a byddan nhw’n wynebu Sussex gartref ar Orffennaf 2.

Byddan nhw’n gorffen gyda gêm gartref yn erbyn Gwlad yr Haf ar Orffennaf 16, a thaith i Southampton i herio Hampshire ar Orffennaf 18.

Gemau 50 pelawd Cwpan Royal London

Bydd ymgyrch Morganwg yng nghystadlaeuth 50 pelawd Cwpan Royal London yn dechrau gartref yn erbyn Swydd Warwick ar Orffennaf 22, cyn iddyn nhw deithio dridiau’n ddiweddarach i herio Swydd Northampton.

Byddan nhw wedyn yn teithio i Wlad yr Haf (Gorffennaf 28) ac i Swydd Derby (Gorffennaf 30), cyn croesawu Surrey (Awst 3) a theithio i Swydd Gaerlŷr (Awst 5).

Dwy gêm gartref fydd ganddyn nhw ar ddiwedd y grwpiau, yn erbyn Swydd Nottingham (Awst 8) a Swydd Efrog (Awst 12).

Bydd rownd yr wyth olaf ar Awst 14 a’r rownd gyn-derfynol ar Awst 17, tra bydd y ffeinal yn Trent Bridge yn Nottingham ar Awst 19.

Yn ogystal â’r cystadlaethau hyn, mae Morgannwg hefyd wedi cyhoeddi gêm yn erbyn Siroedd Llai Cymru ar Orffennaf 20, gyda’r lleoliad i’w gadarnhau.

Gemau pedwar diwrnod

Cafodd trefn gemau pedwar diwrnod Morgannwg eu cyhoeddi cyn y Nadolig.

Bydd strwythur y gemau hynny’n wahanol eleni, gyda’r siroedd wedi’u rhannu’n grwpiau o chwech a bydd pob sir yn chwarae ei gilydd gartref ac oddi cartref.

Bydd naw rownd gynta’r gystadleuaeth yn cael eu cynnal yn wythnosol, a bydd y ddwy sir orau ym mhob un o’r grwpiau’n mynd yn eu blaenau i’r Adran Gyntaf, a bydd y siroedd eraill yn symud i’r Ail Adran a’r Drydedd Adran yn ddibynnol ar eu safle terfynol yn eu grwpiau.

Ar ôl iddyn nhw gael eu rhannu i’w grwpiau, byddan nhw’n chwarae pedair gêm arall, a bydd enillydd yr Adran Gyntaf yn bencampwyr y Bencampwriaeth.

Bydd rownd gynta’r Adrannau yn dechrau ar Awst 30, a’r ddwy sir orau yn yr Adran Gyntaf yn y pen draw fydd yn cystadlu am Dlws Bob Willis mewn ffeinal sy’n dechrau ar Fedi 27.

Taith i Swydd Efrog fydd gyntaf ar Ebrill 8, cyn croesawu Sussex i Gaerdydd union wythnos yn ddiweddarach.

Byddan nhw wedyn yn teithio i Swydd Northampton ar Ebrill 22 cyn croesawu Caint i Gaerdydd ar Ebrill 29.

Taith i Swydd Gaerhirfryn fydd nesaf ar Fai cyn i Swydd Efrog ddod i Gaerdydd ar Fai 13.

Taith i Gaergaint fydd ganddyn nhw ar Fai 20, a Swydd Gaerhirfryn fydd yr ymwelwyr yng Nghaerdydd ar Fehefin 3.

Sussex fydd yn croesawu Morgannwg ar Orffennaf 4 cyn i’r gemau ddod i ben yn Swydd Northampton gyda’r gêm honno’n dechrau ar Orffennaf 11.