Fe fydd y Cymro 28 oed Kieron Freeman ar gael i Abertawe wrth iddyn nhw baratoi i herio Norwich mewn gêm fawr yn y Bencampwriaeth yn Stadiwm Liberty heno (nos Wener, Chwefror 5).
Ymunodd e â’r Elyrch tan ddiwedd y tymor ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo, er mai mis diwetha’n unig y gwnaeth e ymuno ar fenthyg â Swindon.
Chwaraeodd e mewn gêm broffesiynol am y tro cyntaf i Nottingham Forest yn 2011 ac ar ôl cyfnodau ar fenthyg gyda sawl clwb, fe symudodd e i Sheffield United, gan chwarae dros 100 o weithiau.
Roedd e’n aelod o’r garfan enillodd ddyrchafiad i’r Bencampwriaeth yn 2017, ac fe chwaraeodd e 20 o weithiau yn yr Uwch Gynghrair ddwy flynedd yn ôl.
Ond mae’r amddiffynnwr yn dweud bod y profiad o symud i Abertawe wedi bod yn “swreal”.
“Fe wnes i ddarganfod fod peth diddordeb ychydig ddiwrnodau’n ôl ac mae’n gyfle dw i’n meddwl y byddai unrhyw un yn neidio arno â dwy law,” meddai.
“Mae wedi bod yn braf mynd allan i ymarfer gyda’r bois a chwrdd â’r holl staff, ac mae pawb wedi bod mor groesawgar.”
Cymru
Daeth unig gap Kieron Freeman mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Albania yn 2018, ac fe fydd e’n ymuno â’i gyd-Gymro Connor Roberts, nid yn unig yn y garfan ond yn y llinell amddiffynnol hefyd.
“Dw i wedi bod i ffwrdd gyda Chymru sawl gwaith yn y gorffennol, felly dw i’n nabod Connor a Joe [Rodon, cyn-amddiffynnwr Abertawe] – sydd wedi mynd nawr – ond mae wedi bod yn braf gweld Connor eto,” meddai.
“Fe wnes i ddanfon emoji Abertawe at Oli [McBurnie, cyn-ymosodwr yr Elyrch a’i gyn gyd-chwaraewr yn Sheffield United] hefyd! Ac fe wnaeth e ymateb gyda ‘dau beth dw i’n eu caru – Freeman a’r Elyrch!”
Y gêm fawr
Daw Kieron Freeman a chwaraewr newydd arall, Morgan Whittaker, i mewn i’r garfan ar gyfer gêm enfawr i’r Elyrch ar frig y Bencampwriaeth.
Mae tîm Steve Cooper yn drydydd yn y tabl, bum pwynt y tu ôl i Norwich ar y brig, ond maen nhw wedi chwarae un gêm yn llai na’u gwrthwynebwyr wrth iddyn nhw geisio cau’r bwlch i ddau bwynt.
Fydd sawl chwaraewr ddim ar gael i’r Elyrch, gan gynnwys yr Americanwr Paul Arriola oedd wedi symud o DC United, tîm arall perchnogion Abertawe, ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ond sydd heb gael digon o amser i baratoi er mwyn cael ei ddewis.
Dydy’r ymosodwr Liam Cullen na’r asgellwr Wayne Routledge ddim ar gael oherwydd anafiadau.
O ran y gwrthwynebwyr, fydd Marco Stiepermann ddim ar gael oherwydd feirws, tra bod Sam Byram yn dal i wella o anaf i linyn y gâr, yr un anaf â’r ymosodwr Jordan Hugill.
Mae’r golwr Orjan Nyland wedi ymuno â’r clwb ond fydd e ddim yn y garfan.