Fe allai biliau ynni godi o bron i £100 i 15 miliwn o gartrefi ar draws y Deyrnas Unedig ar ôl i’r rheoleiddiwr Ofgem godi’r uchafbris.

Mae Ofgem wedi dweud y gallai cyflenwyr godi biliau cwsmeriaid i adlewyrchu costau cynyddol am nwy a thrydan.

Fe allai biliau gynyddu o £96 i £1,138 erbyn Ebrill 1.

“Dyw cynnydd mewn biliau ynni byth i’w croesawu yn enwedig wrth i nifer o aelwydydd geisio ymdopi gydag effaith y pandemig. Ry’n ni wedi edrych yn ofalus ar y newidiadau er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn talu pris teg am eu hynni,” meddai prif weithredwr Ofgem, Jonathan Brearley.

Mae wedi cynghori cwsmeriaid i chwilio am dariffau rhatach os ydyn nhw eisiau osgoi’r cynnydd ym mis Ebrill.

Daw’r penderfyniad wedi’r gost ychwanegol o £23 y mae cwmnïau ynni yn gallu gorfodi ar gwsmeriaid sydd ddim yn talu eu biliau.

Mae Ofgem yn adolygu ac yn newid yr uchafbris bob chwe mis.