Ynys Môn sydd bellach â’r bedwaredd raddfa uchaf o’r coronafeirws (141.3 ar gyfer pob 100,000 o’r boblogaeth) allan o’r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Ac yn ôl y cyfraddau Covid-19 wythnosol diweddaraf, Ynys Môn yw’r unig ardal i weld cynnydd.

Wrecsam, 308.9, (420), 478.1, (650)
Sir y Fflint, 226.8, (354), 369.6, (577)
Sir Gaerfyrddin, 146.2, (276), 198.1, (374)
Ynys Môn, 141.3, (99), 139.9, (98)
Torfaen, 140.5, (132), 171.3, (161)
Casnewydd, 137.7, (213), 215.9, (334)
Caerffili, 133.1, (241), 178.9, (324)
Caerdydd, 121.6, (446), 182.3, (669)
Bro Morgannwg, 118.3, (158), 166.2, (222)
Blaenau Gwent, 115.9, (81), 147.4, (103)
Pen-y-bont ar Ogwr, 110.2, (162), 195.9, (288)
Rhondda Cynon Taf, 109.8, (265), 165.8, (400)
Conwy, 102.4, (120), 110.9, (130)
Castell-nedd Port Talbot, 100.5, (144), 169.6, (243)
Sir Ddinbych, 98.2, (94), 241.4, (231)
Powys, 92.1, (122), 157.1, (208)
Sir Benfro, 90.6, (114), 139.9, (176)
Abertawe, 87.5, (216), 121.1, (299)
Merthyr Tudful, 86.2, (52), 155.8, (94)
Gwynedd, 74.7, (93), 138.9, (173)
Sir Fynwy, 74.0, (70), 131.1, (124)
Ceredigion, 44.0, (32), 78.4, (57)

Cynyddodd achosion o’r coronafeirws yn sylweddol ar yr Ynys yn ystod mis Ionawr ac fe gofnodwyd y nifer uchaf mewn mis ers dechrau’r pandemig.

Roedd cyfanswm o 440 o achosion – mwy nag ym mis Tachwedd a Rhagfyr gyda’i gilydd.

Mae mwy a mwy o achosion positif wedi eu cysylltu â throsglwyddiad rhwng cartrefi dros yr wythnosau diwethaf, meddai’r Cyngor – gyda llawer o hyn wedi’i achosi gan deuluoedd neu ffrindiau’n ymweld â’i gilydd yn gymdeithasol.

Mae trosglwyddiad yn y gweithle hefyd ar gynnydd, yn ôl y Cyngor, wrth i bobl ddechrau ymlacio a gwneud pethau fel rhannu ceir a methu â chadw at reolau cadw pellter cymdeithasol yn ystod eu cyfnodau egwyl ac mewn mannau seibiant.

Mae’r Prif Weithredwr, Annwen Morgan, wedi cyfeirio at y sefyllfa bresennol fel un “hynod bryderus” – gan nodi bod sefyllfa Ynys Môn, yn wahanol i ardaloedd eraill Cymru, wedi gwaethygu er gwaetha’r cyfnod clo diweddaraf (hynny yw, lefel rhybudd 4).

“Y sefyllfa wedi newid yn gyflym iawn”

Dywedodd Annwen Morgan, “Llai na phythefnos yn ôl, roedd gan Ynys Môn y nifer isaf o achosion o’r Coronafeirws yng Nghymru. Mae’r sefyllfa wedi newid yn gyflym iawn. Ddoe yn unig, cofnododd ein tîm Profi, Olrhain, Amddiffyn (TTP) gyfanswm brawychus o 35 achos positif.”

“Mae’r Coronafeirws yn amlwg ym mhob rhan o’r Ynys wrth i achosion gael eu cadarnhau mewn pobl o bob oed – hen ac ifanc. Mae’r newid hwn wedi bod yn syfrdanol ac er ein holl ymdrechion, nid yw pethau i weld yn gwella ar hyn o bryd.”

Dywed y Cyngor, hefyd fod staff Profi ac Olrhain yn meddwl nad yw rhai trigolion a gysylltir â nhw yn rhannu gwybodaeth hanfodol, rhywbeth a allai atal lledaeniad y feirws ymhellach.

Mewn datganiad gan y Cyngor, nodwyd ei bod yn drosedd rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau a dywedwyd y byddai Heddlu Gogledd Cymru yn cael ru hysbysu am unrhyw un y credir eu bod yn gwneud hynny.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae’r lefelau’r coronafeirws ar Ynys Môn heddiw yn frawychus. Dim ond tri awdurdod lleol yng Nghymru sydd â lefelau uwch.”

“Mae’r nifer uchel o achosion yn rhoi pwysau aruthrol ar Ysbyty Gwynedd ac, yn anffodus, rydym yn deall bod mwy o drigolion Môn wedi marw.”

Ychwanegodd “Bydd torri’r rheolau ond yn arwain at fwy o achosion o’r Coronafeirws a mwy o dristwch i deuluoedd eraill. Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw hi fod pobl yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn diogelu eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.”

Cyfraddau Covid-19 wythnosol diweddaraf ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru

Cyfraddau’n gostwng ym mhob ardal leol ac eithrio un, sef Ynys Môn