Mae’r “normal newydd” a achoswyd gan bandemig y coronafeirws yn debygol o fod gyda ni am gryn amser, gyda newid ddim yn debygol tan ymhell i mewn i 2022, meddai gwyddonydd blaenllaw.

Dywedodd yr Athro Helen Rees, sy’n aelod o bwyllgor argyfwng Sefydliad Iechyd y Byd (y WHO) ar gyfer Covid-19, y bydd yn rhaid i fesurau fel gwisgo masgiau wyneb a phellter cymdeithasol barhau.

Ei sylwadau hi yw’r diweddaraf gan gyfres o arbenigwyr ynghylch pryd mae ymdeimlad o normalrwydd yn debygol o ddychwelyd.

‘Normal newydd’

Dywedodd yr Athro Rees, sy’n dod o Dde Affrica ond sydd â theulu yng Nghymru, wrth BBC Wales Live: “Mae’n ddrwg gen i ddweud… Rwy’n credu y byddwn ymhell i mewn i’r flwyddyn nesaf cyn i ni weld newid – ac mae’r newid hwnnw’n debygol o gael ei wneud pan fydd llawer wedi cael y brechlynnau,” meddai.

“Rwy’n credu bydd y normal newydd hwn rydyn ni i gyd yn siarad amdano gyda ni am gyfnod hir iawn.

“Bydd yn rhaid i wisgo mygydau ac ymbellhau – yr holl fesurau yr ydym wedi’u rhoi ar waith – barhau.

“Mae’r feirws hwn yn gas ac mae’r feirws hwn yn gwybod sut i newid. Os ydym am gael gwared arno, fy nghyngor i’r gwleidyddion yw parhau â’r hyn rydych yn ei wneud – y mesurau hyn,” meddai.

Yn ôl i’r arfer ar gyfer yr haf… “fwy neu lai”

Yn y cyfamser, fore Iau, dywedodd yr Athro Andrew Hayward, aelod o’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (Sage), sy’n cynghori gweinidogion, wrth raglen Today ar BBC Radio 4 y byddai’r wlad “fwy neu lai” yn ôl i’r arfer ar gyfer yr haf.

“Unwaith y bydd y bobl fwyaf agored i niwed, yn enwedig y rhai dros 50 oed a’r rhai sydd â salwch cronig, yn cael eu brechu yna ydw i’n meddwl y gallwn weld symudiad sylweddol tuag at normalrwydd,” meddai.

“Yn ogystal â’r ffaith bod coronafeirws yn glefyd tymhorol, rwy’n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr ac yn ein galluogi i agor.

“Rwy’n credu mai’r hyn a welwn yw agor gam wrth gam wrth i’r lefelau brechu gynyddu, ac yna byddwn fwy neu lai yn ôl i’r arfer ar gyfer yr haf, byddwn yn dychmygu.”

Mis Mawrth a mis Ebrill

Dywedodd Paul Hunter, athro meddygaeth ym Mhrifysgol East Anglia, ei fod yn credu y byddai pobl yn gallu cwrdd â ffrindiau a theulu o fis Mawrth ymlaen.

Dywedodd wrth World At One ar BBC Radio 4 yr hoffai weld ysgolion, ac yn enwedig ysgolion cynradd, yn agor yn gymharol fuan.

Mae disgwyl cyhoeddiad yfory gan Lywodraeth Cymru ar agor ysgolion cynradd Cymru gam wrth gam.

Pan ofynnwyd iddo pryd y gallai pobl ddechrau gweld ffrindiau a theulu, atebodd yr Athro Hunter: “Yn bersonol, rwy’n credu y dylem allu dechrau gwneud hynny ychydig ar ôl [ailagor ysgolion] mae’n debyg – pe bai’n rhaid i mi fetio ar adeg, byddwn i’n dweud rywbryd ym mis Mawrth, yn sicr.”

O ran mynd yn ôl i fwytai, ychwanegodd: “Rwy’n credu y bydd hynny tua’r un adeg, efallai mis Ebrill. Ond eto, mae’n dibynnu beth sy’n digwydd gyda’r epidemig rhwng nawr a bryd hynny.”

Dywedodd yr Athro Hunter ddydd Mercher y gallai fod angen i ryw fath o ymbellhau cymdeithasol barhau tan Wanwyn 2022, hyd yn oed gyda brechlynnau effeithiol.

Dywedodd y byddai angen mesurau drwy’r gaeaf nesaf i atal cynnydd sydyn mewn marwolaethau, yn bennaf ymhlith pobl nad ydynt wedi cael eu brechu.