Dyma’r cyfraddau achos Covid-19 diweddaraf ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 30 Ionawr, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru a’r rhai a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.

Maent yn dangos bod cyfraddau’n gostwng ym mhob ardal leol ac eithrio un, gyda’r gostyngiad mwyaf yn Wrecsam lle mae nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl wedi gostwng o 478.1 i 308.9.

Cofnododd Sir Ddinbych (i lawr o 241.4 i 98.2) a Phen-y-bont ar Ogwr (i lawr o 195.9 i 110.2) gwympiadau mawr hefyd.

Yr un ardal lle mae cyfraddau achosion wedi codi yw Ynys Môn, lle bu cynnydd bach o 139.9 i 141.3.

Mae’r ffigurau’n seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 3 Chwefror. Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diweddaraf (Ionawr 31-Chwefror 3) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac yn tanddatgan gwir nifer yr achosion.

Y rhestr lawn

O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr fel a ganlyn: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 30 Ionawr; nifer (mewn cromfachau) yr achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 30 Ionawr; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 23 Ionawr; nifer (mewn cromfachau) yr achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 23 Ionawr.

Wrecsam, 308.9, (420), 478.1, (650)
Sir y Fflint, 226.8, (354), 369.6, (577)
Sir Gaerfyrddin, 146.2, (276), 198.1, (374)
Ynys Môn, 141.3, (99), 139.9, (98)
Torfaen, 140.5, (132), 171.3, (161)
Casnewydd, 137.7, (213), 215.9, (334)
Caerffili, 133.1, (241), 178.9, (324)
Caerdydd, 121.6, (446), 182.3, (669)
Bro Morgannwg, 118.3, (158), 166.2, (222)
Blaenau Gwent, 115.9, (81), 147.4, (103)
Pen-y-bont ar Ogwr, 110.2, (162), 195.9, (288)
Rhondda Cynon Taf, 109.8, (265), 165.8, (400)
Conwy, 102.4, (120), 110.9, (130)
Castell-nedd Port Talbot, 100.5, (144), 169.6, (243)
Sir Ddinbych, 98.2, (94), 241.4, (231)
Powys, 92.1, (122), 157.1, (208)
Sir Benfro, 90.6, (114), 139.9, (176)
Abertawe, 87.5, (216), 121.1, (299)
Merthyr Tudful, 86.2, (52), 155.8, (94)
Gwynedd, 74.7, (93), 138.9, (173)
Sir Fynwy, 74.0, (70), 131.1, (124)
Ceredigion, 44.0, (32), 78.4, (57)