Mae Huw Stephens yn darlledu’r sioe radio Gymraeg hiraf mewn hanes i ddathlu Dydd Miwsic Cymru.

Dechreuodd y rhaglen 11 awr am 7 bore ’ma a bydd yn parhau i gael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru 2 tan 6 heno.

Yn ystod y rhaglen bydd sesiynau arbennig gyda Griff Lynch, Mari Mathias, Gareth Bonello a Mali Haf yn ogystal â rhestri chwarae cerddoriaeth, gwesteion arbennig a chyfle i ail-fyw rhai o berfformiadau Gigs y Pafiliwn dros y blynyddoedd.

‘Yr un mor bwysig ag erioed’

“Er nad ydym yn gallu dathlu Dyddiad Miwsig Cymru yn y ffordd arferol eleni, mae’r diwrnod yn dal i fod mor bwysig ag erioed fel ffordd o gyflwyno pobl i’r cyfoeth o gerddoriaeth anhygoel sy’n cael ei gwneud yn Gymraeg,” meddai Huw Stephens.

“Roedden ni am neud rwbeth sy’n dod yn naturiol i ni ar Radio Cymru 2; chware llwyth o gerddoriaeth gwych o Gymru!

“Felly o 7 y bore tan 6 y nos bydda i’n darlledu y sioe radio hiraf yn y Gymraeg erioed! Bydd sesiynau, gwesteion ac oriau o gerddoriaeth wych. Dewch i wrando! Os ddim am yr 11 awr, am dipyn bach!”

Mae llu o ddigwyddiadau eraill hefyd yn cael eu cynnal gan wahanol artistiaid a mudiadau i nodi’r diwrnod.

Uchafbwyntiau Dydd Miwsic Cymru 2020