Bydd Brexit yn achosi “mwy o broblemau” wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Yn siarad gerbron un o bwyllgorau’r Senedd heddiw mi atebodd sawl cwestiwn am y ddêl fasnach a darwyd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd bod Llywodraeth Cymru yn “bles iawn” nad oes tariffau ar gig coch Cymru, ond cododd bryderon am rwystrau eraill sydd wedi dod i’r fei – yn eu plith, tâp coch.
“Rydym yn mynd i weld llawer yn fwy o broblemau,” meddai. “Dydyn ni ddim wedi gweld y lefel o broblemau yr oeddem yn ei ddisgwyl.
“Un o’r rhesymau am hynny, o bosib, yw bod allforwyr wedi disgwyl y byddai Ionawr yn broblematig ac y byddan nhw ddim yn allforio cymaint â’r arfer.
“Os edrychwn ar y porthladdoedd, er enghraifft, mae’r traffig yn 50%. Felly wrth i’r flwyddyn fynd yn ei flaen dw i’n credu y byddwn yn gweld mwy o broblemau.”
Mae’r fiwrocratiaeth ychwanegol – gwaith papur i yrwyr lorïau, er enghraifft – wedi arwain at “lawer o gynnyddu costau”, yn ôl y gweinidog.
Ac er bod Llywodraeth San Steffan yn ystyried hyn yn “drafferthion cychwynnol” dyw Lesley Griffiths “ddim yn rhy siŵr mai dyna yw’r sefyllfa”.
XO
Yn ystod y sesiwn holwyd sut berthynas sydd rhwng y gweinidog a George Eustace, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Bwyd, a Materion Gwledig yn San Steffan.
Dywedodd bod ganddi “berthynas dda iawn” ag ef a’i adran, ond cododd bryderon am gyfarfodydd y pwyllgor XO (sef y Pwyllgor Gweithgarwch Gadael yr Undeb Ewropeaidd).
Mae’r cyfarfodydd yma yn rhoi cyfle i weinidogion Bae Caerdydd a San Steffan ddod ynghyd a thrafod materion o bwys. Ond mae gan Lesley Griffiths bryderon amdanynt.
“Rydym yn wastad wedi mynychu’r cyfarfodydd XO,” meddai. “Weithiau dw i’n teimlo eu bod yn cael eu cynnal jest i dicio bocs.
“Ond mae’n gyfle i ni godi materion a phryderon. Ydyn nhw’n eu cymryd o ddifri? Cwestiwn iddyn nhw yw hynny.”