Mae lefel y traffig ym mhorthladdoedd Cymru yn dal i fod yn llawer yn is nag yr oedd gynt, yn ôl un o brif ffigyrau Stena Line yn y Deyrnas Unedig.
Ddiwedd llynedd mi ddaeth y cyfnod pontio i ben – cyfnod o ddilyn rheolau’r Undeb Ewropeaidd -ac roedd disgwyl i hynny gael effaith mawr ar brysurdeb porthladdoedd Prydain.
Â’r gwaith papur ychwanegol sy’n rhaid ei lenwi, roedd disgwyl ciwiau mawr o lorïau ac mi roddwyd paratoadau yn eu lle ar gyfer hynny.
Mewn gwirionedd – yn rhannol, efallai, oherwydd pentyrru stoc o flaen llaw – y gwrthwyneb sydd wedi digwydd ac mae’r porthladdoedd wedi distewi.
“Cwym dramatig”
Gerbron Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan fore heddiw mi roddwyd diweddariad o’r sefyllfa gan Bennaeth Awdurdodau Porthladd y Deyrnas Unedig cwmni fferïau Stena Line.
“Yn ystod pythefnos cyntaf y flwyddyn wnaeth lefel y traffig gwympo tua 70%,” meddai. “Mae hynna wedi gwella rhyw ychydig.
“Ond ar ddiwedd [mis Ionawr roedd] lefel y traffig yn dal i fod yn 50% yn is trwy borthladdoedd Caergybi ac Abergwaun. Mae hynny’n gwymp dramatig yn lefel y traffig.”
Bu hefyd yn trafod y cyfnod yn arwain at ddiwedd y cyfnod pontio.
Yn ystod yr wyth wythnos hyd at Nadolig daeth “lefelau hynod o nwyddau” trwy borthladdoedd Cymru, meddai, gwmnïau bentyrru stoc – ac felly roedd Stena Line yn disgwyl mis Ionawr tawelach ta beth.
“Ar ddiwedd y cyfnod pontio ni ddaeth ein pryderon mwyaf [ynghylch ciwiau hir] yn realiti,” meddai.
“Wnaeth y traffig lifo. Cafodd 20% o’r nwyddau i Iwerddon ei gwrthod oherwydd problemau â gwaith papur sylfaenol. Ond roeddwn yn medru cywiro’r rheiny.
“Ac mewn gwirionedd dim ond rhyw 5% oedd yn cael trafferth wrth groesi.”
O Ewrop i Iwerddon
Mae yna le cryf i gredu bod traffig wedi distewi ym mhorthladdoedd Cymru gan fod cwmnïau bellach yn dewis osgoi Prydain.
Yn ôl y ddadl, trwy gludo nwyddau ar fferïau rhwng Iwerddon a chyfandir Ewrop yn uniongyrchol, mae masnachwyr yn medru osgoi ffwdan y gwaith papur a ddaeth yn sgil Brexit.
Yn siarad gerbron yr ASau mi ddywedodd Ian Davies bod “tir-bont” – hynny yw, y llwybr rhwng Iwerddon a’r cyfandir dros dir Prydain – “ddim i weld yn gweithio”.
“Mae lefel hynod uchel o draffig bellach yn teithio yn uniongyrchol rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Ffrainc, gan osgoi porthladdoedd Cymru,” meddai.
“Yn wreiddiol roedd gan Stena Line Ferries a Irish Ferries un fferi yr un [rhwng Iwerddon a’r cyfandir]. Bellach mae tua naw wedi ymuno â’r sector. Felly mae wedi tyfu 300%. Cynnydd anferthol.
“Yn syml mae [busnesau] yn osgoi y ‘tir-bont’ ar hyn o bryd”
Busnesau’n dewis sicrwydd
Yn ddiweddarach yn y sesiwn mi rodd gynnig ar broffwydo sut y byddai pethau’n datblygu yn y dyfodol. Roedd i weld yn optimistaidd am y sefyllfa.
“Ar hyn o bryd dw i’n credu bod pobol yn mynnu sicrwydd,” meddai. “Maen nhw’n gwybod bod y llwybrau môr hir yn rhoi elfen o sicrwydd iddyn nhw. Ac maen nhw jest eisiau cael at farchnadoedd.
“Felly maen nhw’n gwneud hynny. Maen nhw’n ysgwyddo’r gost ychwanegol a’r amser ychwanegol [mae’r daith forol yn ei gymryd] am y tro.
“Ond dw i’n credu, os gawn ni sicrwydd ynghylch y cyswllt rhwng Dover a Calais, y bydd hyder yn dychwelyd i’r farchnad.
“Byddan nhw’n sylwi nad yw’r tir-bont yn gymaint o broblem ag oedden nhw’n credu yr oedd hi. Ond ar hyn o bryd, yn bendant, dw i’n credu bod pobol yn dewis ‘yr hyn sy’n sicr’ dros ‘yr hyn sy’n bosib’.”