“Gwell hwyr na hwyrach” oedd ymateb Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar gyflwyno profion sy’n defnyddio Dyfeisiau Llif Unffordd mewn cartrefi gofal heddiw (dydd Iau, Chwefror 4).

Mae profion sy’n defnyddio Dyfeisiau Llif Unffordd (LFD) yn cynhyrchu canlyniadau o fewn tua 30 munud, o’i gymharu â phrofion PCR lle mae’n rhaid anfon y sampl i labordy.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y bydd mwy o brofion Covid-19 ar gyfer staff cartrefi gofal yn dechrau’r wythnos hon i helpu i nodi unigolion heintus yn gynt a rheoli achosion yn fwy effeithiol.

Bydd y rhaglen brofi well yn cynnwys cynnal profion ddwywaith yr wythnos ar staff cartrefi gofal asymptomatig gan ddefnyddio dyfeisiau prawf llif uffordd cyflym.

Mae hyn yn ychwanegol at brofion PCR, sy’n cael eu hanfon i labordy, a gynhelir ar hyn o bryd gan staff cartrefi gofal fel rhan o becyn o fesurau, sydd wedi sydd wedi bod yn weithredol ers mis Mehefin 2020, ar gyfer atal trosglwyddo Covid-19 ac amddiffyn preswylwyr a staff.

Cytunwyd ar becyn ariannu gwerth £3 miliwn i gefnogi’r profion ychwanegol mewn cartrefi gofal.

Dywedodd datganiad gan Lywodraeth Cymru: “Ar ôl i brofion sy’n defnyddio Dyfeisiau Llif Unffordd (LFD) gael dilysiad gwyddonol, gwnaethom gyflwyno profion LFD ar gyfer ymwelwyr â phob cartref gofal yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2020 i hwyluso ymweliadau gan deulu a ffrindiau â phobl sy’n byw mewn cartrefi gofal.

“Oherwydd y newidiadau i gyfyngiadau lefel 4 a gyflwynwyd ar 19 Rhagfyr, ychydig iawn o ymweliadau a phrofion cysylltiedig sydd wedi’u cynnal.

“Fodd bynnag, yn unol â chanllawiau cynllun rheoli’r coronafeirws ynghylch lefel rhybudd 4 ar gyfer gofal cymdeithasol, mae profion ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld â chartrefi gofal hefyd wedi’u cyflwyno.”

“Amddiffyn y bobol fwyaf agored i niwed”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “Mae amddiffyn y bobol fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wedi bod yn flaenoriaeth yn ystod argyfwng firws Covid-19.

“Mae staff cartrefi gofal, awdurdodau lleol a thimau diogelu iechyd yn parhau i weithio’n ddiflino i atal cyflwyno a throsglwyddo Covid-19 ymlaen yn ein cartrefi gofal.

“Er ein bod yn gwneud cynnydd da o ran cyflwyno ein rhaglen frechu, mae profion yn parhau i fod yn ganolog yn ein hymateb i’r pandemig er mwyn helpu i nodi unigolion heintus mewn cartrefi gofal yn gynt a rheoli achosion yn fwy effeithiol.”

“Gwell hwyr na hwyrach”

“Rwy’n falch o weld bod y Llywodraeth Lafur o’r diwedd wedi dal i fyny â’n galwad i wneud i hyn ddigwydd yng Nghymru, ac mae’n debyg ei bod yn well yn hwyr nac yn hwyrach.

“Fel llawer o’u cyhoeddiadau, mae bellach yn hanfodol bod Llafur yn dilyn drwodd ar ei chyhoeddiad ac yn cyflwyno’r profion hyn i leoliadau gofal ledled Cymru.

“Bydd y profion yn rhoi sicrwydd i’n staff iechyd a gofal cymdeithasol gwych, yn ogystal ag i’w teuluoedd a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt wrth iddynt fynd i’r afael â’r feirws hwn, ac – yn hollbwysig – gall roi hyder i bobl gynnal ymweliadau cartref gofal eto.”