Mae Hillary Clinton, y cyn-ymgeisydd Arlywyddol a chyn-ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau, wedi cyhoeddi y bydd ei hysgoloriaeth Rhaglen Heriau Byd-eang ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei hymestyn i gynnwys pum ysgolhaig arall.

Nod y rhaglen a lansiwyd yn 2019 yw cefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr sy’n ymrwymedig i fynd i’r afael â materion byd-eang brys, gan gynnwys amddiffyn plant ar-lein, seiberddiogelwch, ac argyfwng yr hinsawdd.

Dewiswyd yr ail garfan o ysgolheigion y llynedd a rhoddwyd ysgoloriaeth ôl-raddedig un flwyddyn wedi’i hariannu’n llawn ym Mhrifysgol Abertawe i bob un ohonynt.

‘Dycnwch a dyfeisgarwch’

Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod seremoni raddio rithwir y garfan gyntaf o ysgolheigion Heriau Byd-eang ddydd Iau, Chwefror 4.

“Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar faterion brys sy’n gofyn am ddycnwch a dyfeisgarwch,” meddai Hillary Clinton.

“Mae ein hysgolheigion Heriau Byd-eang cyntaf, sy’n graddio heddiw, a gynhaliodd eu hastudiaethau yn ystod pandemig, wedi dangos hynny ac wedi cerfio llwybr i’r rhai a fydd yn eu dilyn.

“Rwy’n falch iawn ein bod, diolch i Sky, yn croesawu ein hail flwyddyn o ysgolheigion Heriau Byd-eang. Gwn y bydd y profiad y maent yn ei gael drwy’r rhaglen hon yn eu harfogi a’r hyn sydd eu hangen arnynt i fynd allan a chael effaith yn eu maes.

“Rwyf mor falch o’r gymuned hon mae Prifysgol Abertawe yn ei chreu ac rwy’n edrych ymlaen at ei gweld yn parhau i dyfu.”

Mae gan Brifysgol Abertawe gysylltiadau cryf â Hillary Clinton – derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan y Brifysgol yn 2017 ac mae Coleg y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol wedi ei enwi ar ei hol.

Hillary Clinton ym Mhrifysgol Abertawe yn 2019

‘Cydweithio’

Eglurodd yr Athro Elwen Evans CF, o Brifysgol Abertawe, bod cydweithio â Hillary Clinton a chwmni Sky wedi cael effaith gadarnhaol ar ysgolheigion.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Clinton a Sky am barhau i gefnogi’r Rhaglen Heriau Byd-eang ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â hwy ymhellach wrth i ni gynyddu ein cymuned o ysgolheigion anhygoel,” meddai.

“Rydym i gyd yn falch dros ben o bopeth y mae ein carfan gyntaf wedi ei gyflawni ac rwy’n ffyddiog y bydd ein hysgolheigion newydd yn creu argraff yr un mor ffafriol.”

Ychwanegodd Jeremy Darroch, Cadeirydd Gweithredol Grŵp Sky: “Rydym am ysgogi newid a chreu dyfodol gwell, felly rydym yn falch o gefnogi’r genhedlaeth nesaf sy’n gweithio i greu dyfodol gwell drwy’r rhaglen hon ac sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a diogelwch ar-lein.

“Edrychaf ymlaen at weld gwaith yr ysgolheigion yn datblygu dros y flwyddyn nesaf.”