Fe fydd trigolion o’r Deyrnas Unedig sy’n dychwelyd o wledydd sydd â risg uwch o Covid-19, yn gorfod hunan-ynysu mewn gwestai sydd wedi’u clustnodi’n benodol, o ganol y mis.

Ond mae gweinidogion wedi’u cyhuddo o fod yn rhy araf yn gweithredu’r mesurau.

Dywedodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) y bydd teithwyr sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig o wledydd dramor sydd ar y “rhestr goch” yn gorfod bod mewn cwarantin am 10 diwrnod o Chwefror 15.

Roedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi’n wreiddiol ei bod yn tynhau’r rheolau ar ôl i amrywiadau o’r firws ddod i’r amlwg yn Ne Affrica a Brasil.

Yn ôl y Blaid Lafur mae y “tu hwnt i amgyffred” pam ei fod wedi cymryd mor hir i weithredu’r mesurau, ac nad ydyn nhw’n mynd yn ddigon pell.

“28,000 o ystafelloedd”

Dywed y DHSC eu bod yn gweithio’n gyflym i sicrhau bod y gwestai cwarantin yn barod ar gyfer pobl o’r DU sy’n dychwelyd o wledydd risg uchel dramor o ganol y mis.

Yn ôl y Daily Telegraph mae swyddogion yn ceisio cadw 28,000 o stafelloedd mewn gwestai ar gyfer y cynllun. Dywed y papur eu bod wedi gweld dogfennau sy’n dangos bod swyddogion yn amcangyfrif y bydd 1,425 o deithwyr angen bod mewn cwarantin mewn gwestai bob dydd, y rhan fwyaf ger Heathrow.

Daw’r cyhoeddiad am ddyddiad ar gyfer dechrau’r cynllun wedi dyddiau o ansicrwydd yn Whitehall ynglŷn â sut fyddai’r cynllun yn cael ei weithredu.

Yn y cyfamser mae arweinwyr y Gwasanaeth Iechyd wedi rhybuddio bod y gwasanaeth yn parhau dan bwysau er gwaetha cyhoeddiad prif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty, bod y don ddiweddaraf o’r pandemig yn gwella.