Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi enwi’i dîm i wynebu Iwerddon ar benwythnos agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae Dan Lydiate, a fydd yn chwarae ei gêm gyntaf i Gymru ers 2018, yn dechrau yn y rheng ôl ac mae Ken Owens a’r capten Alun Wyn Jones yn dychwelyd o anafiadau.
Dau nad oedd ar gael i’w dewis oedd Josh Adams, sydd wedi cael ei wahardd am ddwy gêm am dorri rheolau Covid, a Liam Williams, sydd wedi ei wahardd am drosedd cerdyn coch tra yn chwarae i’r Scarlets.
Hallam Amos a Louis Rees-Zammit sydd felly yn dechrau ar yr esgyll, tra bod George North yn ymuno â Johnny Williams yn ganol cae wedi i Jonathan Davies anafu ei bigwrn yn ddiweddar.
Ers cael ei benodi yn Brif Hyfforddwr yn 2019 mae Wayne Pivac wedi colli yn erbyn Iwerddon ddwywaith, unwaith yn y Chwe Gwlad ac unwaith yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref y llynedd.
Gorffennodd Cymru yn bumed yn y gystadleuaeth y llynedd a daw unig fuddugoliaethau Wayne Pivac fel Prif Hyfforddwr y tîm cenedlaethol yn erbyn yr Eidal (ddwywaith) a Georgia.
Tîm Cymru
Olwyr: 15. Leigh Halfpenny, 14. Hallam Amos, 13. George North, 12. Johnny Williams, 11. Louis Rees-Zammit, 10. Dan Biggar, 9. Tomos Williams
Blaenwyr: 1. Wyn Jones, 2. Ken Owens, 3. Tomas Francis, 4. Adam Beard, 5. Alun Wyn Jones (C), 6. Dan Lydiate, 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau
Eilyddion: 16. Elliot Dee, 17. Rhodri Jones, 18. Leon Brown, 19. Will Rowlands, 20. Josh Navidi, 21. Gareth Davies, 22. Callum Sheedy, 23. Nick Tompkins
Tîm Iwerddon
Bydd Johnny Sexton yn capteinio’r Gwyddelod a hynny yn ei ddeuddegfed Pencampwriaeth Chwe Gwlad.
Robbie Henshaw a Garry Ringrose sydd wedi eu dewis yng nghanol cae, a hynny am y tro cyntaf ers rownd gogynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2019.
Bydd y prop Cian Healy yn gwneud ei 50fed ymddangosiad ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wrth iddo ennill cap rhif 105 i Iwerddon.
Olwyr: 15. Hugo Keenan, 14. Keith Earls, 13. Garry Ringrose, 12. Robbie Henshaw, 11. James Lowe, 10. Jonathan Sexton (C), 9. Conor Murray
Blaenwyr: 1. Cian Healy, 2. Rob Herring, 3. Andrew Porter, 4. Tadhg Beirne, 5. James Ryan, 6. Peter O’Mahony, 7. Josh van der Flier, 8. CJ Stander.
Eilyddion: 16. Ronan Kelleher, 17. Dave Kilcoyne, 18. Tadhg Furlong, 19. Iain Henderson, 20. Will Connors, 21. Jamison Gibson Park, 22. Billy Burns, 23. Jordan Larmour
Cymru v Iwerddon ar S4C am 2.15 brynhawn dydd Sul gyda’r gic gyntaf am dri.
Gemau Cymru yn y Chwe Gwlad:
Cymru v Iwerddon | Stadiwm Principality | Chwefror 7, 15.00 |
Yr Alban v Cymru | Stadiwm Murrayfield | Chwefror 13, 16.45 |
Cymru v Lloegr | Stadiwm Principality | Chwefror 27, 16.45 |
Yr Eidal v Cymru | Stadio Olimpico | Mawrth 13, 14.15 |
Ffrainc v Cymru | Stade de France | Mawrth 20, 20.00 |