Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau nad oes un achos o’r coronafeirws wedi’i gofnodi ymhlith y garfan genedlaethol.
Daw hyn wedi i asgellwr Cymru, Josh Adams, gael ei yrru adref o’r garfan a’i wahardd am ddwy gêm am dorri rheolau covid penwythnos diwethaf.
Cafodd y profion diweddaraf eu cynnal dydd Iau ac mae’r canlyniadau yn golygu fod Cymru yn cael chwarae yn erbyn Iwerddon brynhawn dydd Sul, Chwefror 7.
Dychwelyd i’r Stadiwm Genedlaethol
Bydd tîm rygbi Cymru yn wynebu’r Gwyddelod yn Stadiwm Genedlaethol gan ddychwelyd yno am y tro cyntaf ers bron i flwyddyn.
Bu rhaid i Gymru chwarae gemau’r cartref yr hydref y llynedd ym Mharc y Scarlets wedi i’r stadiwm genedlaethol gael ei throi’n ysbyty dros dro.
Ond am y tro cyntaf erioed bydd y stadiwm, sydd yn medru dal dros 73,000 o bobol, yn wag ar gyfer y gystadleuaeth eleni wrth i gemau gael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig.
Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips, yn edrych ymlaen at weld y tîm yn chwarae yng Nghaerdydd unwaith eto.
“Roeddem wedi gobeithio y byddai dychwelyd i’r Stadiwm a’i thrawsnewidiad o ysbyty Calon y Ddraig yn ôl i gae rygbi yn cyd-fynd gyda chefnogwyr yn medru dychwelyd, ond rydym yn ddiolchgar o’r hyn sydd gennym – y cyfle i chwarae yno.”
Bydd Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, yn enwi ei dîm i wynebu Iwerddon brynhawn dydd Gwener, Chwefror 5.