Mae cyn-brif hyfforddwr Cymru, Mike Ruddock, yn rhagweld y bydd amrywiaeth yn chwarae’r Gwyddelod y penwythnos yma.

Rhybuddiodd y Cymro y bydd hyfforddwyr Iwerddon yn edrych i chwarae mewn ffyrdd newydd yn erbyn Cymru ddydd Sul, a bod angen i’r Cymry wneud mwy na chanolbwyntio ar gryfder y Gwyddelod ymhlith y blaenwyr yn unig.

“Mae Iwerddon bellach yn ceisio chwarae gyda rhywfaint o amrywiaeth,” meddai Mike Ruddock.

“Mae Iwerddon wedi bod yn effeithiol yn y gorffennol oherwydd os nad oedden nhw’n gallu torri chi lawr gyda rhywfaint o ledu’r chwarae gan chwaraewyr fel Jacob Stockdale, yna gallen nhw bob amser gadw’r bêl – nid yn annhebyg i sut roedd Munster yn arfer chwarae.

“Ond dwi’n meddwl bod ganddyn nhw fwy o gynlluniau nawr i geisio cael y lled yna i mewn i’w gêm. Gall croes-giciau gan Johnny Sexton neu giciau bocs gan Conor Murray hefyd gynnig amrywiaeth iddynt.

“Mae ganddyn nhw nifer o opsiynau da i’w gêm.”

Amddiffyn 

Mae Mike Ruddock bellach yn gyfarwyddwr rygbi gyda rhanbarth y Gweilch, ac mae ei fab Rhys Ruddock yn rhan o garfan Iwerddon – ond ni fydd yn wynebu Cymru ddydd Sul.

“Rwy’n disgwyl i amddiffyn Cymru fod yn llawer gwell, a chyflymder llinell yn well,” meddai Mike Ruddock.

“Gwelsom hynny yn y gemau ar ôl gêm Iwerddon yn yr hydref a chredaf fod hynny’n argoeli’n dda iddynt.

“Mae Cymru yn bendant wedi gwella o ble roedden nhw yn y Chwe Gwlad diwethaf ac mae eu hamddiffyn wedi gwella.

“Daeth Wayne Pivac i mewn ac roedd ganddo weledigaeth i newid sut roedd Cymru’n ymosod. Dyna oedd ei weledigaeth a’i flaenoriaeth.

“Mae’n debyg ei fod eisoes wedi gallu targedu rhai o’i syniadau ymosodol ac felly efallai mai’r flaenoriaeth nawr yw gwella’r system amddiffynnol.

“Pan oeddwn i gyda Chymru, fe wnaethon ni rywbeth tebyg. Daethom â Clive Griffiths i mewn i’n gwneud hi’n anoddach i sgorio yn ein herbyn.”

Arweinyddiaeth

Arweinyddiaeth yw un o’r ffactorau y mae Mike Ruddock yn credu bydd yn ffactor bwysig yn y gêm dydd Sul, ac nid dim ond gan y capteiniaid Alun Wyn Jones a Johnny Sexton.

“Mae Johnny Sexton yn parhau i fod mor hanfodol i ymdrechion Iwerddon,” meddai Mike Ruddock.

“Mae’n gliriach nag erioed pa mor bwysig yw disgyblaeth, arweinyddiaeth a pha mor gorfforol ydy chwaraewyr. Dyna’r tri pheth enfawr sy’n sefyll allan.

“Mae angen i chi fod yn gorfforol iawn, ond mae’n rhaid i chi fod gyda disgyblaeth pan dan bwysau. Dyna pryd mae arweinyddiaeth yn bwysig a’r angen i wneud penderfyniadau da.

“Mae’r ddau hyfforddwr – Wayne ac Andy [Farrell] – bellach wedi cael amser i fynd i’r afael â gofynion rygbi rhyngwladol yn yr un modd ag y cymerodd hi amser i i Eddie Jones i wneud gyda Lloegr.

“Dw i’n edrych ymlaen at gêm gyffrous, dylem weld gêm o ansawdd uchel. Mae’r ddwy ochr yn ceisio chwarae rygbi da gyda lled a thempo.”

Ken Owens

Ken Owens a Dan Lydiate yn dychwelyd i herio’r Gwyddelod

Wayne Pivac yn enwi’i dîm i wynebu Iwerddon yng Nghaerdydd bnawn Sul