Mae Abertawe bellach yn ôl yn ail safle cynghrair y Bencampwriaeth ar ôl buddugoliaeth holl bwysig o 2-0 yn erbyn Norwich, y tîm sydd ar y brig, neithiwr.

Dim ond dau bwynt sydd rhwng y ddau dîm bellach, gyda Norwich wedi chwarae un gêm yn fwy na’r Elyrch.

Gyda gôl gan Andre Ayew dri munud cyn hanner amser, ac un arall gan Conor Housihane dri munud wedi’r egwyl, bydd Abertawe’n wynebu Manchester City yn y gêm gwpan nos Fercher ar ôl 10 gêm olynol heb gael eu curo.

‘Ffordd bell i fynd’

Er y fuddugoliaeth, dywed rheolwr Abertawe, Steve Cooper, fod ganddyn nhw ffordd bell i fynd o hyd.

“Rydym yn tyfu o un gêm i’r llall ac o un diwrnod i’r llall, mae’r gwaith yn parhau a heb fod yn agos i gyrraedd y terfyn,” meddai.

“Ond roedd yn fuddugoliaeth a pherfformiad gwirioneddol dda. Roedden ni’n dda ar adegau gyda’r bêl ac wedyn fe ddechreuon ni’r ail hanner a mynd 2-0 i fyny.

“Mae pob tîm eisiau cadw dalennau glân, ac rydym yn gwneud hynny. Rydym yn glir iawn o ran sut rydym eisiau i’r tîm chwarae ac rydym yn cael enillion da.

“Allwch chi ddim disgwyl gormod gan y bechgyn oherwydd doedden nhw ddim yno ar gychwyn y tymor, a dydyn nhw’n dal ddim yno gyda 19 o gemau i fynd.

“Mae clybiau nad ydyn nhw hyd yn oed yn y 10 uchaf sydd â llawer mwy o adnoddau na ni, ond rydym yn gwneud yn dda ac yn mwynhau’r daith a dyna sut rydym yn gweithio.”