Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi cyhoeddi y bydd busnesau sydd wedi derbyn benthyciadau cymorth gan y Llywodraeth yn cael mwy o amser i’w talu’n ôl.

Ers mis Medi, mae 1.4 miliwn o fusnesau wedi derbyn cyfanswm o £45 biliwn mewn benthyciadau ‘bounce back’ i’w helpu i oresgyn eu cwymp mewn elw yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae ei gynnig newydd yn cynnig y dewis o dalu’r arian yn ôl dros 10 mlynedd yn lle chwe blynedd, neu dalu’r llog o 2.5 y cant yn unig ar hyn o bryd.

Maen nhw hefyd yn gallu gohirio taliadau’n gyfan gwbl am chwe mis.

“Mae busnesau’n dal i deimlo effaith Covid-19 ac rydym yn benderfynol o roi’r gefnogaeth a’r hyder mae arnyn nhw ei angen i oroesi’r pandemig,” meddai Rishi Sunak.

“Dyna pam rydym yn rhoi mwy o hyblygrwydd i fenthycwyr godi’n ôl ar eu traed.”

I fusnesau sydd wedi benthyca £50,000 o dan y cynllun, mae ymestyn y cyfnod talu’n ôl o 6 i 10 mlynedd yn golygu gostwng taliadau misol o tua £940 i £460.  I’r rheini sy’n dewis talu llog yn unig, daw eu biliau misol i lawr i tua £100 y mis dros dro.